Gŵyl Sŵn yn cyhoeddi ton gyntaf o artistiaid

Mae gŵyl ddinesig Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi’r don gyntaf o artistiaid fydd yn perfformio ar draws y brifddinas rhwng dydd Iau 15 Hydref a dydd Sadwrn 17 Hydref 2026. 

Unwaith eto eleni, mae’r ŵyl aml-leoliad yn bartner balch i Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd, sydd hefyd yn cyflwyno Gŵyl Llais a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig fel rhan o’u rhaglen bythefnos o hyd. 

Wedi’i sefydlu gan Huw Stephens yn 2007, a’i arwain gan dîm Clwb Ifor Bach ers 2018, mae rhaglen Sŵn eleni’n tynnu ynghyd artistiaid lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gyflwyno rai o’r enwau newydd mwyaf cyffrous o Gymru a thu hwnt. 

Yn aros yn driw at weledigaeth Sŵn o feithrin talent leol a darganfod cynulleidfa i amrediad eang o artistiaid, mae’r ŵyl tridiau o hyd yn gyfle gwych i ddod o hyd i’ch hoff artist newydd. 

Fel yr arfer, mae llond lle o artistiaid Cymreig yn rhan o’r rhaglen eleni, gan gynnwys y cyfansoddwr a’r aml-offerynnwr Cerys Hafana, sy’n dychwelyd i Sŵn gyda’u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth gwerin, traddodiadol a minimalaidd. 

Ymhlith yr enwau eraill fydd yn rhan o Sŵn 2026 mae’r cynhyrchydd pop-perffaith ifan, y pedwarawd alt-pop dwyieithog o Ogledd Cymru WRKHOUSE a hefyd un o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, Tokomololo, sy’n gwneud i ’stafell wag symud gyda’i guriadau cynnil a’i felodïau moethus. 

Amhosib fyddai peidio â chroesau hen ffyddloniaid y sin, Pys Melyn, yn ôl i Sŵn fis Hydref ac yn ymuno a hwy yn y brifddinas bydd y gantores a’r gyfansoddwraig Casi, yn dilyn rhyddhau ei halbwm cyntaf ‘Plentyn yr Haul’; gweadau tynner a chaethiwus SHINOBii a hefyd ambell i artist mwy amgen eu naws megis Chwaer Fawr, Asidhara a SHLUG. 

Bydd yr ŵyl unwaith eto yn cael ei gynnal mewn aml-leoliad ar draws Caerdydd, gan berchnogi Stryd Womanby a thu hwnt gydag amserlen lawn o gerddoriaeth newydd a chyffrous. Ymhlith y lleoliadau sy’n o raglen Sŵn eleni mae Tramshed, Clwb Ifor Bach, Eglwys St John, Jacobs Basement, Fuel, Canopi, Tiny Rebel, Little O’Neill’s a Porter’s.

“Rydym wrth ein bodd yn datgelu’r don gyntaf o artistiaid ar gyfer gŵyl Sŵn 2026” meddai Adam Williams, rheolwr cerddoriaeth byw Sŵn. 

“Eleni, mae’r ŵyl yn dychwelyd gyda thri diwrnod llawn o gerddoriaeth newydd mewn 9 o leoliadau gwahanol ar draws Caerdydd – gyda dros 150 o artistiaid yn perfformio ar draws 10 llwyfan anhygoel.

“Rydym yn falch o hyrwyddo cerddoriaeth newydd a rhoi llwyfan i’r artistiaid anhygoel rydym yn cydweithio â nhw drwy’r flwyddyn. Mae hefyd mwy i ddod felly dilynwch ein cyfrifon cymdeithasol a chofrestrwch gyda’n rhestr bostio i glywed mwy o fanylion yn fuan!” 

Dyma’r artistiaid Cymreig sydd wedi eu cyhoeddi yn y don gyntaf:

Cerys Hafana 

Ifan

Casi

Pys Melyn

WRKHOUSE 

Asidhara 

Tokomololo 

Chwaer Fawr 

Shinobii 

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer yr ŵyl nawr.