Rhyddhau albwm cyntaf Lo-fi Jones

Mae Lo-fi Jones, sef y pedwarawd gwerin-indie o Fachynlleth, wedi rhyddhau eu record hir gyntaf. 

‘Coming Sŵn’, ydy enw’r albwm newydd sydd allan ar y llwyfannau digidol arferol.

Lo-fi Jones ydy’r brodyr barfog sy’n dod yn wreiddiol o Betws-y-coed, Liam a Siôn Rickard, ynghyd â Rolando Bertrand Ruiz o Nicaragua a Badger Brown o Sir Benfro. 

Recordiwyd yr albwm yn bennaf yn Our Lady Studio yn y Borth gyda’r cynhyrchydd Mike West. 

Cafodd traciau ychwanegol eu recordio yng Nghaerdydd gan Mei Gwynedd, yn Rhydychen gan Upcycled Sounds, ac yn llofft y prif leisydd Siôn Rickard.

Mae ‘Coming Sŵn’ yn albwm cyntaf gwreiddiol a hyderus, wedi’i wreiddio mewn gwerin ac indie Cymreig. 

Disgrifiodd Adam Walton o BBC Radio Wales waith y band fel ‘cwrw cartref ardderchog’ — ‘cymer un llymaid ac efallai y cei dy gludo i rywle annisgwyl.’

Band ‘anhrefnus, obsesinol’

Mae’r albwm yn agor gyda fersiwn fywiog o ‘Diofal yw’r Aderyn’ cyn camu i fyd gwreiddiol y band — caneuon sy’n crwydro rhwng y chwareus a’r dwys, y Gymraeg, y Saesneg, ychydig o Sbaeneg a Ffrangeg, yn ymdrin â phopeth o ffoaduriaid, tirwedd gymdeithasol Cymru — i dostyddion wedi torri.

“Mi sgwennon ni rai o’r caneuon ’ma pan oedden ni’n dal yn ein harddegau; mae rhai eraill yn newydd” meddai Siôn Rickard. 

“Dan ni’n anhrefnus, yn obsesiynol, ac mae’n wyrth ein bod ni wedi gorffen y record o gwbl — ond dan ni’n edrych ymlaen yn arw at be’ sy’n dod nesa.”

Rolando Bertrand Ruiz ydy drymiwr a basydd y band sy’n dod o Nicaragua, a dywed bod y band yn awyddus i fynd â diwylliant Cymreig o gwmpas y byd. 

“Efo’n cerddoriaeth ni, dan ni isio cymryd treftadaeth Cymru — y gwerin, y straeon, y bobl — a’i dod â hi’n fyw drwy lygaid pobl o gefndiroedd gwahanol; fel fi, o Nicaragua. Adrodd ein straeon cyfoes ni drwy iaith y tir” meddai Rolando. 

Sefydlwyd Lo-fi Jones yn wreiddiol yn 2020. Ers hynny, maent wedi ennill Brwydr y Bandiau Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol 2023, a’r wobr canu grŵp traddodiadol yng Ngŵyl Ban-Geltaidd Iwerddon yr un flwyddyn. 

Fe’u rhestrwyd ar y rhestr fer yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023, ac yn 2024 derbyniwyd cyllid Horizons/Gorwelion, gan ryddhau’r EP ‘Bad Technology’ yn ddiweddarach y flwyddyn honno. 

I ddathlu rhyddhau Coming Sŵn, roedd y band yn perfformio sioe lansio yn Sploj, Machynlleth, ar y dyddiad rhyddhau ar 12 Mehefin.

Dyma’r trac ‘Bydd Goleuni yn yr Hwyr’ o’r albwm:


Llun: Imogen de Lacey

Gadael Ymateb