‘Gwynt Teg’ – sengl newydd Mered Morris 

‘Gwynt Teg’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan y cerddor profiadol, Mered Morris, wrth iddo fyfyrio ar ddysgu gwersi o’n camgymeriadau blaenorol.

Talp o gân roc egnïol ydy ‘Gwynt Teg’. 

Mae hi’n sôn am y pwysigrwydd o ddysgu gwersi o’n hanes a ninnau’n wynebu adeg cythryblus iawn.

Fe fydd y gân yn ran o albwm newydd Mered, ‘Y Paith a Llefydd Eraill’, fydd yn cael ei ryddhau ddiwedd mis Mai. 

Mae hanner caneuon yr albwm wedi deillio o daith i gigio ym Mhatagonia ddiwedd 2024, a’r gweddill, fel y gân hon, yn sôn am bethau sy’n agosach at adre.

Mered sy’n canu a chwarae’r gitâr a’r allweddellau, gydag Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) ar y bas, a Llywelyn ap Gwyn ar y drymiau.

 

Gadael Ymateb