Maddie Elliott yn ôl ac yn herio’r cyfryngau cymdeithasol

Mae’r artist Maddy Elliott yn dychwelyd gyda’i sengl newydd, sy’n mynd i’r afael a’r disgwyliadau sy’n cael ei creu gan y cyfryngau cymdeithasol.

‘Trio Plesio Pawb’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Aran, ac sydd wedi’i ysbrydoli gan gerddoriaeth werin a blŵs.

Mae’r sengl yn archwilio hunaniaeth, hunanwerth, a’r pwysau i ffitio i mewn i fyd o ddisgwyliadau sy’n newid yn gyson.

Maddy Elliott ydy’r artist cerddorol o bentref bach Llanfair Talhaiarn, sy’n gorwedd rhwng trefi Llanrwst ac Abergele. Daeth i’r amlwg gyntaf wrth ryddhau’r sengl ‘Torri Fi’ ym mis Medi 2024, ynghyd â fideo ar gyfer y trac.

Trwy ddisgrifio sefyllfaoedd emosiynol, mae’r gân ddiweddaraf ganddi yn myfyrio ar y pwysau a roddir ar bobl ifanc, yn enwedig menywod ifanc, i edrych, ymddwyn, a chyflwyno eu hunain mewn ffordd benodol.

Mewn oes sydd wedi’i llunio gan gyfryngau cymdeithasol a chymhariaeth, mae’r gân yn adlewyrchu ar y pryderon o deimlo’n ddatgysylltiedig, cwestiynu eich hunaniaeth, a’r her o geisio datblygu’n rhywun a fydd yn cael ei dderbyn.

Mae ‘Plesio Pawb’ yn ein hatgoffa bod chwilio am gymeradwyaeth yn dasg amhosibl. Mae’r trac yn annog gwrandawyr i ollwng gafael ar y pwysau o fod yn ‘bopeth i bawb’ a chofleidio’r rhyddid i dderbyn pwy ydyn nhw. Gan gyfuno cynhesrwydd gwerin â dyfnder emosiynol y blŵs, mae Maddy Elliott yn cyflwyno cân bersonol efo neges i bawb sydd erioed wedi teimlo’r angen i brofi eu bod nhw’n perthyn.

Mae ‘Trio Plesio Pawb’ yn ein hatgoffa bod chwilio am gymeradwyaeth yn dasg amhosibl. Mae’r trac yn annog gwrandawyr i ollwng gafael ar y pwysau o fod yn ‘bopeth i bawb’ a chofleidio’r rhyddid i dderbyn pwy ydyn nhw. Gan gyfuno cynhesrwydd gwerin â dyfnder emosiynol y blŵs, mae Maddy Elliott yn cyflwyno cân bersonol efo neges i bawb sydd erioed wedi teimlo’r angen i brofi eu bod nhw’n perthyn.

 

Gadael Ymateb