Mae dau gerddor amgen yn cyfuno eu doniau wrth gyfuno cerddoriaeth a chelf ar eu sengl newydd.
Hedydd Ioan ac Izak Zjalič ydy’r ddau gerddor dan sylw, sy’n dod ynghyd eto am y tro cyntaf ers tair blynydd, i ryddhau eu hail sengl dan enw’r prosiect Sachasky.
‘Creulon’ ydy enw’r sengl fydd allan ar 10 Gorffennaf ac sy’n cael ei ryddhau i gyd fynd â darn newydd o gelf.
Bydd label INOIS yn rhyddhau’r sengl ar yr un noson ag y bydd y ddau’n perfformio ac yn agor eu gosodiad newydd fel rhan o arddangosfa Castell 04 yng Nghastell Caernarfon.
Cydweithio eto
Daeth Hedydd Ioan ac Izak Zjalič i amlygrwydd drwy ei prosiectau unigol, skylrk. a Sachasom, wrth i’r ddau ennill cystadlaeth ‘Brwydr y Bandiau’ yr Eisteddfod yn eu tro, gan fynd ymlaen i ryddhau albyms unigol.
Ar ôl perfformio’n fyw gyda’i gilydd a chydweithio’n eang, ryddhaodd y ddau y gân ‘Ru’n Fath’ yn 2023 fel Sachasky. Ers hyny mae Izak wedi denu clod wrth fynd ymlaen i ryddhau yr albwm ‘Ein Albwm Cyntaf Ni’ gyda ei fand Tai Haf Heb Drigolyn, gyda Hedydd yn ymuno wrth i’r band chwarae’n fyw.
Mae’r ddau wedi bod yn brysur yn teithio gyda’r band gan ddod yn ôl eleni i ryddhau cerddoriaeth efo’i gilydd o dan Sachasky.
Wrth iddynt berfformio cyfres o gigs ar ôl ryddhau ‘Ru’n Fath’ nôl yn 2023 fe chwaraeon nhw yn lleoliad ‘Shift’ yng Nghaerdydd – gofod celfyddydol ac arbrofol oedd wedi ei leoli mewn gofod mawr eang o dan ganolfan siopa Capital yn y ddinas. Newidiodd y gig yma feddylfryd y ddau yn llwyr, gan osod y gobaith o gyflwyno ei gwaith ar lwyfan celf.
Distewodd y syniad yma wrth i’r ddau barhau i weithio ar ei cerddoriaeth unigol a’r band, tan iddynt ddychweld nawr i rannu ei sengl ‘Creulon’. Er yn sengl newydd, mae’r gân yn dod o’r cyfnod pan gychwynodd y ddau y prosiect, fel yr eglura Izak…
“O’r cof dwi’n credu wnaethon ni greu ‘Creulon’ ar ôl gig Sachasky yn SHIFT, lle wnaethon ni neud set improv a bron cael mental breakdown yn paratoi o” meddai.
“Aeth y set yn dda diolch byth a mae wedi bwydo mewn i sut da ni’n creu rwan, cymysgedd o collage, performance art a caneuon go iawn. Dwi’n credu gath Creulon ei ysbrydoli gan cân ar ddiwedd Good Time (Iggy Pop a OPN). Cafodd y gân ei greu yn Rhymney Street, Caerdydd yn gyflym iawn”
Atgofion o gastell Caernarfon
Mae’r gân yn cael ei rhyddau fel rhan o’r arddangosfa Castell 04 gan Carn a Cadw yng Nghastell Caernarfon, mae’n cydfynd gyda pherfformiad a gosodiad sain gan y ddau o’r enw ‘mae yna le arall yma.’.
Mae’r gwaith yn dilyn gosodiad newydd sain-weledol gan Hedydd yn Oriel Plas Glyn y Weddw dros y ddeufis diwethaf.
“Mae’r perfformiad a gosodiad yn edrych ar fy atgofion o’r castell, a’i le fel gofod celfyddydol a breuddwydiol, ac yn enwedig y teithio rydym yn ei wneud y gyrraedd y gofod yna” meddai Hedydd wrth egluro’r cysylltiad rhwng y gân a’r darn.
“Ynglwm efo hyn mae’r cwestiwn o pwy sy’n cadw ein hanes a’n atofion, ac roedd cynnwys CREULON fel rhan ohono a’i ryddhau yn amsereu perffaith. Mae wir yn teimlo fel cyfuno ein holl dyheadau creadigol.”
Mae ‘Creulon’ allan ar y 10 Gorffennaf ar label INOIS a bydd Hedydd Ioan ac Izak Zjalič yn perfformio fel rhan o arddangosfa Castell 04 yng Nghastell Caernarfon ar noson y 10fed o Orffennaf gyda gosodiad sain gan y ddau yn y castell o’r 10fed tan y 12fed o’r mis.