Mae deuawd nu-metal dwyieithog o Fangor, C E L A V I, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf. ‘PLASTER’ ydy enw’r anthem gathartig, ffyrnig newydd ganddynt sy’n cyfuno ymosodiad amrwd gyda bachau cofiadwy.
Mae’r trac, ynghyd a fideo, wedi’u rhyddhau ers dydd Gwener diwethaf. 15 Mai ac wedi ei chymryd o EP newydd y band.
C E L A V I ydy’r ddeuawd priod Gwion Griffiths a Sarah Wynn Griffiths, ac maent wedi meithrin enw da am berfformiadau llawn emosiwn a chaneuon sy’n archwilio hunaniaeth, iechyd meddwl a hunanfynegiant.
Mae eu dull dwyieithog yn parhau i hyrwyddo’r iaith Gymraeg o fewn cerddoriaeth amgen fodern wrth wthio i ofod byd-eang ehangach. Mae eu sengl newydd, PLASTER, yn gweld C E L A V I ar eu mwyaf eang a chaled, gan droi negyddiaeth yn danwydd ar gyfer herfeiddiad.
“Gyda PLASTER, roedden ni eisiau sianelu rhywbeth ffyrnig a chatartig. Mae’n ymwneud â chymryd yr holl negyddiaeth a gwenwyndra hwnnw da ni’n ei brofi’n allanol ac yn fewnol a’i droi’n gryfder” meddai Sarah Wynn Griffiths.
“Yn sonig, mae PLASTER yn bangar nu-metal – mae’n ymosodol gyda bachynnau melodig; dyma ein hanthem ymladd yn ôl” ychwanega Gwion Griffiths.