Mae’r ddeuawd newydd, Madryn, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf.
‘Rhywbeth yn Rhywle‘ ydy enw’r record hir newydd sydd wedi’i ryddhau ar label Recordiau Madryn.
Madryn ydy’r ddeuawd werin Gymraeg Elin Hâf Madden a Tegid Rhys Williams, sydd wedi dod i’r amlwg yn ddiweddar iawn wrth ryddhau cwpl o senglau ac mae’r albwm yn cyrraedd yn dynn ar sodlau rhain.
Mae’r albwm yn cynnwys saith cân sy’n symud rhwng deunydd gwreiddiol a thraddodiadol, wedi’u cyflwyno drwy sain acwstig gyfoes gyda gitâr a soddgrwth wrth wraidd y trefniadau.
Wedi’u hysbrydoli gan draddodiad gwerin Cymru, mae’r caneuon yn archwilio natur, hanes, profiadau personol a’r bobl a’r lleoedd sy’n siapio ein bywydau.
Cyfarfu Elin a Tegid mewn gig yn 2023 gan ddechrau ysgrifennu a pherfformio gyda’i gilydd yn fuan wedyn.
Eu cân gyntaf ar y cyd oedd ‘Rhywbeth Yn Rhywle’, a ryddhawyd fel sengl gyntaf yr albwm ar 25 Medi 2026. Mae’r gân yn myfyrio ar newid o’n hamgylch a’r ffyrdd rydym yn ceisio gwneud synnwyr ohono, ac mae’n rhoi ei henw i’r albwm.
Ers hynny mae’r ddeuawd wedi datblygu eu sain drwy ysgrifennu, recordio a pherfformio ledled Cymru. Mae ‘Rhywbeth Yn Rhywle’ yn nodi cam nesaf Madryn fel prosiect, gan ddod â chaneuon a syniadau sydd wedi datblygu dros y blynyddoedd diwethaf at ei gilydd mewn un casgliad.
“Mae’r albwm yma’n gasgliad o ganeuon sydd wedi tyfu o’r hyn rydym ni wedi bod yn ei brofi, ei weld a’i glywed dros y blynyddoedd diwethaf” meddai’r ddeuawd.
“Mae rhai o’r caneuon yn edrych yn ôl ar draddodiad gwerin Cymru, tra bod eraill yn fwy personol neu’n ymwneud â’r byd o’n cwmpas. Yn y pen draw, mae’r albwm yn adlewyrchu lle rydym ni fel Madryn ar hyn o bryd.”