Mae’r band newydd sy’n cynnwys nifer o wynebau cyfarwydd, Ffenest, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf – ‘Emynau Anghyflawn’ ydy enw’r record hir newydd gan y band sydd allan ar label Grwndi Records.
Band pedwar aelod o Eryri ydy Ffenest sy’n plethu synau pop seicadelig a melodig.
Mae’r prosiect yn dod â dau ffrind oedd yn aelodau o’r band o Ddyffryn Conwy, Sen Segur, nôl ynghyd, sef George Amor a Ben Ellis. Y ddau aelod arall ydy Alex Morrison a Guto Evans sydd hefyd yn enwau cyfarwydd i’r rhai sydd wedi bod yn dilyn y sin gerddoriaeth yn Gogledd.
Bu’r pedwar yn creu cerddoriaeth gyda’i gilydd fel Ffenest ers 2022 ar ôl i Ben a George adael eu swyddi yn yr un mis, gan dod at ei gilydd i greu cerddoriaeth ar y cyd eto a hwythau wedi bod yn gweithio ar brosiectau ar wahân gan gynnwys Phalcons ac Omaloma.
Mae pob trac ar yr albwm yn mynd a ni ar daith trwy fyd Ffenest, o gefn gwlad Cymru, i ganeuon wedi’u hysbrydoli gan yr Outer Hebrides yn yr Alban, i ryfeddodau llewyrch yr arth yng nghanol nos.
Mae ‘Emynau Anghyflawn yn ffrwyth blynyddoedd o waith ysgrifennu ac, yn ôl eu label, yn crisialu gallu Amor ac Ellis i gyfansoddi ac agor eu byd i wrandawyd.
“Mae gallu rhannu ein albwm cyntaf gyda’r byd yn deimlad hyfryd” meddai’r band.
“Gobeithio wir gwneith pobl fwynhau’r gwrando.”
Recordiwyd yr holl albwm ym mis Medi 2024 yn Stiwdio Giant Wafer yng nghanol bryniau diddiwedd y canolbarth gyda’r cynhyrchydd Llŷr Pari. Cafodd i rhan fwyaf ei recordio’n fyw.
Bydd cyfleoedd i weld Ffenest yn perfformio’n fyw yng ngŵyl Tafwyl, Caerdydd ar 21 Mehefin, ac yna yng Ngŵyl Arall, Caernarfon ar 11 Gorffennaf.
Dyma ‘Ceffyl Gwynt’ o’r albwm:
Llun: Sion Teifi Rees