Rhyddhau albwm Troi Cerrig

Mae Stuart Estell, sy’n gyfarwydd am ei gerddoriaeth fel Ffos Goch, wedi dechrau prosiect newydd ar y cyd â’r bardd Sara Erddig. 

Troi Cerrig ydy enw eu prosiect ar y cyd, ac maent wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf dan yr enw ‘Llaid Loffa’ ar 23 Ionawr.

Mae ‘Troi Cerrig’ yn brosiect cydweithredol sy’n croesi ffiniau ieithyddol, gwladol a synhwyraidd. Daw’r albwm yn dilyn rhyddhau’r sengl ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’ ar ddechrau mis Rhagfyr.

Dim ond ym mis Medi 2025 y bu i’r ddau gyfarfod am y tro cyntaf erioed, a hynny yn Stiwdio Olivet yn Rhosrobin, Wrecsam. Erbyn diwedd yr wythnos honno roedd dwsin o draciau ganddynt, a ffrwyth y sesiynau hynny ydy’r albwm cyntaf hwn.    

Man cychwyn pob trac ydy cerdd gan Sara, y mwyafrif ohonynt yn dod o’i chyfrol ddwyieithog ‘Trawiad / Seizure’. 

Enillodd y gerdd ‘Ablaeth Rhemp y Crachach’ wobr ‘Geiriau Creadigol DAC 2022’, ac roedd ‘Pader un Wrecsamyn’ yn gerdd gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025. 

 

Deffro’r awen alawon

Cyfansoddwyd y mwyafrif o’r gerddoriaeth ar y pryd gan Stuart gan ddefnyddio amrywiaeth o offerynnau acwstig ac electronig. 

“Daeth Stuart draw i’m stiwdio gelf a’i throi yn stiwdio recordio” egluro Sara. 

“…ac ar yr un pryd roedd yn gwrando ar fy ngherddi ac yna’n dewis o ymysg yr offerynnau amrywiol oedd ar hyd y llawr a’r desgiau, ac yna’n creu alaw o nunlle i gyd-fynd hefo’r cerddi gair lafar.”

“Fues wrthi un diwrnod yn gwrando ar yr albwm ‘Anrhegion’ (Ffos Goch) wrth olchi’r llestri, ac ymateb i’r trac ‘Cadernid’ yw [y trac] ‘Dysgu Darllen’, gan gynnwys yr alaw, sydd, yn ôl Stuart, yn addasu rhywfaint ar yr alaw wreiddiol. 

“Rhywsut neu gilydd mae’r rhyngweithio yma wedi deffro’r awen alawon ynddo i.” 

Mae’r prosiect wedi datblygu fel tipyn o syndod i Stuart eglura. 

“I fi, roedd y broses yn syfrdanol o hawdd, wedi tyngu llw i fi fy hunan amser maith yn ôl fyddwn i byth yn ffurfio band byth eto” meddai. 

“Ond y tro ‘ma, digwyddodd popeth yn reddfol ac yn esmwyth – yn achos sawl un o’r traciau, yr hyn ‘ych chi’n clywed yw’r take llawn cyntaf.” 

Partneriaeth Troi Cerrig

Mae Sara Erddig (Dr Sara Louise Wheeler) yn gyfarwydd am ysgrifennu’r colofnau ‘O’r Gororau’ i

Stuart Estell

gylchgrawn Barddas, a ‘Synfyfyrion Sara’ i Golwg360. Ar ddechrau 2025 cafodd nawdd gan DAC i weithio ar ddarn celf yn archwilio’r bwlch rhwng asesiadau dyslecsia a’r system addysg cyfrwng Cymraeg, a’i sefyllfa hithau’n disgyn rhwng y ddwy stôl. 

Mae Sara’n un o artistiaid Stiwdio Olivet, Rhosrobin, ac mae’n ‘ddarllenydd’ i gyfnodolyn Fahmidan. 

Wedi ei eni a’i fagu yng nghanolbarth Lloegr, mae teulu Stuart yn dod o Dde-Orllewin Cymru yn hanesyddol. 

Mae wedi bod yn recordio a rhyddhau cerddoriaeth yn y Gymraeg fel Ffos Goch ers 2022 ar ôl gwneud amrywiaeth o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, gan gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE. 

Rhyddhawyd ei albwm diweddaraf fel Ffos Goch, ‘Byd Sbwriel’, ym mis Hydref 2025.