Mae’r cerddor profiadol Mered Morris wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Lawr yn La Boca’ ydy enw’r trac newydd ganddo sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 23 Ionawr.
Mae Mered yn gyfarwydd fel un sydd wedi chwarae gitâr i nifer o fandiau a cherddorion eraill yn y gorffennol gan gynnwys Rhiannon Tomos a’r Band, Meic Stevens, Bwchadanas a Sobin a’r Smaeliaid. Er hynny mae bellach yn rhyddhau cerddoriaeth yn unigol ers sawl blwyddyn.
“Mae’r gân yn sôn am un o ardaloedd mwya bywiog a lliwgar Buenos Aires” meddai Mered am ei sengl ddiweddaraf.
“Dwi’n ddiolgar iawn i Michael Brown (Sacs), Aled Huws (Bas) a Llywelyn Ap Gwyn (Drymiau) am eu cyfraniadau cerddorol arbennig, i Gethin John (Hafod Mastering) ac i Sion Jones am gynllunio’r clawr.