Rhyddhau EP cyntaf Penne Orenne

Mae’r band ifanc o Gaerfyrddin, Penne Orenne,wedi rhyddhau eu EP cyntaf gyda label Fflach Cymunedol.

Mae’r record fer newydd yn rhannu enw’r grŵp. 

Pum cân wreiddiol a geir ar yr EP sy’n archwilio amrywiaeth o themâu cyfoes gan gynnwys pêl-droed, gorbryder, diflastod, yn ogystal â’r hit YouTube boblogaidd “Miss Miss Miss.” 

Mae’r grŵp yn cynnwys pum merch o ysgol Bro Myrddin, ac maent eisoes wedi creu cryn argraff ar y sîn gerddoriaeth gyfoes drwy ennill cystadleuaeth bandiau Eisteddfod yr Urdd a Sŵn Sir Gâr, ymddangos ar Curadur a’r Galeri Luniau ar S4C, a chefnogi’r band benywaidd llwyddiannus o Gaerfyrddin – Adwaith. 

Mae caneuon y band yn sicr wedi denu sylw Adwaith, gan fod Gwenllian Anthony o’r band hefyd yn gynhyrchydd i’r EP, ac yn chwarae’r bâs ar sawl un o’r traciau. Cafodd y traciau eu recordio yn Stiwdio Cwrw, Caerfyrddin, dan arweiniad y cerddor a’r cynhyrchydd Louis O’Hara.

‘Caneuon Catchy’

Yn llawn egni, hiwmor a hyder, mae’r EP yn gyfuniad o diwns pop cofiadwy a geiriau heintus fydd yn siŵr o apelio at gynulleidfa eang. 

O ganeuon bywiog am bêl-droed i eiliadau mwy myfyriol yn trafod gorbryder, mae’r casgliad yn dangos ystod eang o leisiau a phrofiadau sy’n adlewyrchu creadigrwydd ac uchelgais cenhedlaeth newydd o ferched ifanc.

Bu’r grŵp yn cael eu mentora gan y cerddor a’r cynhyrchydd adnabyddus Mei Gwynedd yn ddiweddar ac mae’n amlwg yn credu bod ganddynt ddyfodol disglair. 

“Ges i lot o hwyl yn mentora Penne Orenne – mae gan y merched ganeuon catchy, geiriau ffraeth, a steil unigryw sy’n fy atgoffa o steil spiky Blondie a’r B52s” meddai Mei. 

“Dwi’n edrych mlaen yn fawr i weld nhw’n datblygu a chlywed rhagor o ganeuon ganddyn nhw.”

Mae Gwenllian Anthony yn amlwg wedi mwynhau’r profiad o weithio gyda’r band hefyd. 

“Roedd gweithio gyda Penne Orenne yn anrhydedd a phleser enfawr” meddai Gwenllian. 

“Roedd e’n gymaint o hwyl i chwarae o gwmpas ac i ddarganfod sŵn y project. Yn edrych ymlaen yn arw i weld lle ewn nhw fel band.”

Gyda chefnogaeth eu teuluoedd, eu cymuned leol, a’r sîn gerddoriaeth fywiog yng Nghaerfyrddin, mae Penne Orenne eisoes wedi denu ffans o bob oed. Mae’r EP newydd yn dangos aeddfedrwydd cerddorol sy’n peri cyffro am ddyfodol y band ifanc hwn – a gyda mwy o ganeuon ar y ffordd ac albwm ar y gweill ar gyfer 2027, mae’n amlwg mai megis dechrau yw hyn.

Lansiwyd yr EP mewn gig arbennig yn Cwrw, Caerfyrddin ar ar 8 Mai, sef y dyddiad rhyddhau, gyda Manon a Coron Moron yn cefnogi. 

Mae’r caneuon ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.

Dyma fideo ‘Miss Miss Miss’:

 

Gadael Ymateb