EP cyntaf IFAND i lanio’n fuan

Mae label Klust Music wedi cyhoeddi y bydd EP cyntaf IFAND yn cael ei ryddhau ar 22 Mai. 

‘AMOD’ fydd enw’r record fer newydd gan y cynhyrchydd o Ddyffryn Ceiriog a ddaeth i’r amlwg gyntaf gyda’r sengl ‘FIND ME’ a ryddhawyd ym mis Ebrill eleni.

Fel tamaid i aros pryd, mae’r cynhyrchydd wedi rhyddhau ail sengl newydd o’r enw ‘Cusan’. 

Yn brosiect sy’n ymestyn dros ddwy flynedd o hyd, mae’r EP pum-trac yn llifo rhwng dydd a nos a’n gasgliad o ganeuon sy’n dwyn dylanwad gan arddulliau clwb, jazz a thechno. 

Ifan Davies ydy IFANC, ac mae bellach yn byw ym Manceinion. 

“Mae’r trac, a’r EP yn ei gyfanrwydd, yn neidio rhwng dydd a nos ac yn llifo o gefn gwlad nôl adra’ i awyrgylch dinesig, prysur” meddai Ifan wrth drafod ei sengl gyntaf, ‘FIND ME’. 

“Mae’n tynnu ar fy mhrofiad o symud i fyw i Fanceinion a’n dwyn dylanwad gan arddulliau clwb, jazz a techno.”

Gyda ‘FIND ME’ yn derbyn cefnogaeth gan raglenni fel Noods Radio a BBC Introducing, mae ei sengl newydd ‘Cusan’ yn samplu’r bardd Morgan Llwyd mewn arddull arbrofol sy’n cyfuno llonyddwch, tensiwn a chyffro.

I gyd-fynd ȃ’r sengl newydd, mae fideo wedi’i gyfarwyddo gan Rhys Grail hefyd wedi’i gyhoeddi ar-lein.

Dyma’r fideo:

 

Gadael Ymateb