Sengl ‘Ionawr’ Hap a Damwain

Mae’r band Hap a Damwain wedi rhyddhau eu sengl newydd ers 1 Ionawr. 

‘Ionawr’ ydy’r enw priodol iawn ar y trac newydd sydd allan ers diwrnod cyntaf y flwyddyn. 

Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).

Yn ôl y ddeuawd, mae’r sengl yn flas cyntaf o albwm newydd y prosiect fydd yn cael ei ryddhau’n ddiweddarach yn 2026 dan yr enw ‘Hogie’r Swyddfa’. Bydd yr albwm hwnnw’n ddilyniant i’w halbwm diwethaf, ‘Diwedd Hanes’ a ryddhawyd bron union flwyddyn yn ôl ym mis Ionawr 2025. 

Mae’r grŵp hefyd yn paratoi i berfformio yng Ngŵyl ‘Arfordir Amgen’ a gynhelir ar stepen eu drws ym Mae Colwyn ar 24 Ionawr. 

Mae’r sengl newydd ar gael ar safle Bandcamp Hap a Damwain. 

Gadael Ymateb