Popeth ydy prosiect pop cydweithredol y cerddor profiadol Ynyr Roberts, a’i bartner cerddorol diweddaraf ydy Liam J. Edwards.
‘Diva’ ydy enw sengl newydd y ddeuawd sydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 13 Mawrth.
Mae Liam J. Edwards yn enw sy’n dod yn fwy cyfarwydd pob mis ers ei ymddangosiad ar ‘Y Llais’ (S4C) gan gyrraedd rownd derfynol y rhaglen.
Recordiau Côsh sy’n rhyddhau’r sengl newydd gan y ddeuawd.
Mae eu llais cynnes, pwerus yn cyferbynnu’n hyfryd â’u steil pop egnïol a’u personoliaeth ddisglair, gan arwain at brofiad cerddorol sy’n gwneud i chi lonyddu, wrth wrando ar ei eiriau ond dawnsio i sŵn eu curiad.
Dyma gân sy’n torri tir newydd, gan mai dyma’r tro cyntaf i Liam ryddhau cân yn y Gymraeg. Yn ôl eu label, mae hon yn gân a ellid ond ei disgrifio fel ‘Popera (Pop-Opera) wedi’i wasgu mewn i gân 3 munud.
Mae ‘Diva’ yn bygwth dod yn anthem ar gyfer 2026.
- tîm
- tîc
- têr
- tŵr
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf