Albwm cyntaf Lafant ar y ffordd

Bydd y band o ogledd Sir Benfro, Lafant, yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ar ddydd Gwener  20 Mawrth.

Wrth baratoi i wneud hynny, maent wedi rhyddhau blas pellach o’r casgliad ar ffurf y sengl ‘Olwen’. 

Yn ddeuoliaeth o hunanhyder a phryder, mae albwm cyntaf y band yn adleisio sŵn amrwd y 1990au ac yn llawn egni ffwrdd-a-hi cyfoes.

Daw’r albwm gwta flwyddyn ar ôl i Lafant ffurfio, ac maent wedi  magu dilyniant cwlt cynyddol diolch i’w gigs bywiog dirifedi.

‘Segurdod’ ydy enw eu halbwm cyntaf ac mae’n cynnwys 10 cân yn llawn myfyrdod a geiriau cynnil, wedi’u gosod yn erbyn sŵn gitâr crensiog, ac adran rhythm bwerus. 

Mae’r albwm wedi’i ddylanwadu gan fandiau gitâr canol y 90au, o Grunge a Slacker, i ffefrynnau Britpop melodig amlwg The La’s, The Bluetones, Longpigs ar eiconig Big Leaves. Mae’r band yn adlewyrchu’r arddull gerddorol yma gyda’r un datganiad di-hid, miniog a pherfformiadau byw eiconig, wedi’u crynhoi gan lais carismatig, di-ffwdan y prif leisydd a prif gyfansoddwr Mefin Hughes.

Adda ac Efa

Wedi’i recordio dros 7 diwrnod prysur, gyda’r band unwaith eto’n ymuno â Mike West yn ei stiwdio yn Borth ger Aberystwyth, mae egni ifanc ac uniongyrchedd y band yn cyfieithu’n hyfryd trwy eu sain byw, trwy haenau o gitarau garw, a thrwy sgil gwych Mike wrth recordio sain byw.

Mae agoriad yr albwm, a’r sengl gyntaf a ryddhawyd ddechrau mis Mawrth, ‘O! Mor Las’, yn sgwrs ddychmgol rhwng y canwr Mefin Hughes a’i hunan fel bachgen, yn llawn hunan-gasineb a hunan-drueni, ond wedi’i gyflwyno gyda swagger ac agwedd ffwrdd-a-hi. 

Mae’r albwm yn symud trwy roc a rôl amrwd ‘Gwerth Pob Ceiniog’, cyn y gân serch ‘Asgwrn Cefn’, yn llawn hunanhyder ac ansicrwydd. 

Mae’r ail sengl ‘Olwen’, a’i henwyd ar ôl chwedl y Mabinogi, yn stori epig ddychmygol am y prif gymeriad. Mae’r band yn symud drwy genres, o gitarau trwm ‘Fan Hyn’ a proto-roc ‘Mentro’ i ddiweddglo uchel ‘Tlws Yw Fy Ngharia’d ac ‘Hyfryd’, cân sy’n crynhoi sŵn Lafant, gyda’i llywio hyderus yn cyrraedd uchafbwynt gyda’r llinell “mae mor hyfryd bod yn fyw”.

Mae’r albwm amrywiol, enigmatig yn gorffen gydag ‘Y Sarff’, cân blŵs ddiymhongar gyda chytgan llac, sy’n atgoffa rhywun o Weezer. Mae delweddaeth Adda ac Efa, sydd i’w weld drwy gydol yr albwm, yn awgrymu themâu chwant, trachwant, sleeze, ac yn y pen draw, yr holl bethau eraill sy’n eich gyrru ymlaen yn eich ugeiniau cynnar.

Gwnaed y gwaith celf gan yr artist o Gymru, RoHoFro, wedi’i ysbrydoli gan eiriau’r band, gan ddarlunio chwedlau epig trwy lens wedi’i ystumio gan boenau ac ewfforia bywyd modern. Fel eu caneuon, mae’r ddelwedd yn llawn manylion diddorol, hanner straeon, sibrydion blinedig a chyffesion tafod-yn-y-boch. 

Crëwyd fideos cerddorol gan Nico Dafydd (‘O! Mor Las’), a’r gwneuthurwr ffilmiau DIY Sam Stevens (‘Olwen’) i gyd-fynd â’r ddwy sengl, gyda’r ddau yn gweld y band yn mireinio eu brand trwy syniadau ffres yn nodio’n ddigywilydd at eu dylanwadau hanesyddol.

Bydd ‘Segurdod’ yn cael ei ryddhau’n ddigidol ar label recordiau cymunedol Fflach Cymunedol, sydd wedi’i leoli yn Aberteifi, ar 20 Mawrth. 

Dyma fideo ‘Olwen’: