Sengl ddiweddaraf Aleighcia Scott wrth i albwm agosáu

Mae’r gantores reggae Aleighcia Scott yn ôl gyda’i sengl ddiweddaraf sydd allan ers dydd Mercher 22 Gorffennaf. 

‘Hawdd’ ydy enw’r trac diweddaraf ganddi a dyma’r sengl olaf cyn ei halbwm Cymraeg llawn cyntaf, ‘Taith’, fydd allan cyn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 31 Gorffennaf.

Y tro yma, mae Aleighcia’n lledu ei hadenydd. Ar ôl blynyddoedd o wneud enw iddi’i hun ar y sin reggae a ska, mae ‘Hawdd’ yn gam dewr i gyfeiriad newydd sbon – cân jazz-pop gyda chytgan heintus sy’n dangos ochr wahanol i’r gantores.

Cân bersonol yw hi, am ddarganfod cariad sy’n dod yn ‘hawdd’ ac sy’n llifo’n ddidrafferth trwy dy fywyd. Cafodd ei chyd ysgrifennu a’i chynhyrchu gyda Yws Gwynedd a Rich James Roberts yn ystod sesiynau recordio’r albwm.

“Cân arall sydd wedi bod yn bleser pur i’w chreu – mae hon yn un bersonol iawn i mi, am ddarganfod cariad sy’n dod yn ‘hawdd’ ac sy’n llifo’n ddidrafferth trwy dy fywyd” meddai Scott. 

“Mae’n arddull wahanol i mi, ond un dwi wedi mwynhau pob eiliad o’i chreu – petai Olivia Dean yn gwneud cerddoriaeth yn Gymraeg… fel hyn yn union y byddai’n swnio!”

Dyma’r sengl olaf cyn i’r record hir ‘Taith’ lanio ar 31 Gorffennaf – albwm sy’n adrodd hanes taith Aleighcia gyda’r Gymraeg a’i bywyd yn ddiweddar. 

Bydd yr albwm yn cynnwys traciau newydd sbon sy’n ymdrin â phynciau fel cariad, colled a thor calon, yn ogystal â fersiwn arbennig o Hen Wlad fy Nhadau.

Dyma’r fideo ar gyfer ‘Hawdd’:

 

 

 

Gadael Ymateb