‘Dim Amser’ ydy enw’r casgliad aml-gyfrannog newydd gan label Fflach Cymunedol sy’n ail-ddychmygu record hir gan y band amlwg o Aberteifi, Ail Symudiad.
Deugain mlynedd ar ôl ei ryddhau, mae ‘Sefyll ar y Sgwâr’ gan Ail Symudiad, yr albwm cyntaf onglog, don newydd gan y band o Aberteifi, wedi cael ei ail-recordio gyda chaneuon gan lwyth o artistiaid mwyaf cyffrous Cymru.
Mae’r artistiaid, sy’n cynnwys Gwenno, HMS Morris, Rogue Jones, Cyn Cwsg a Martha Elen ymysg eraill, wedi dod ynghyd i ail-ddychmygu’r record Gymreig arloesol o ddechrau’r 80au.
Mae ‘Dim Amser’ yn cynnwys 13 o leisiau cerddorol amlycaf Cymru yn ail-ymweld, yn ail-ddehongli ac yn ail-greu pob cân ar yr albwm gwreiddiol hwnnw – yn wir, mae un gân wedi’i hail-recordio ddwywaith!
Yn ogystal ȃ synau adnabyddus Gwenno, Rogue Jones, a Pys Melyn, mae’r rhestr hefyd yn cynnwys lleisiau ffres Martha Elen, Dewin a Lafant, ynghyd â’r bandiau adnabyddus HMS Morris, Los Blancos, Breichiau Hir a Cyn Cwsg ac arwyr y sîn amgen Chwaer Fawr, Tai Haf Heb Drigolyn a Gwen (Adwaith).
Cynnig perspectif arall
Wedi’i recordio’n wreiddiol yn y chwedlonol Stiwdio Sain a’i ryddhau ym 1982, roedd ‘Sefyll ar y Sgwâr’ yn drobwynt mewn cerddoriaeth Cymraeg. Gan wrthod caneuon dramatig, hir eu cyfoedion, roedd y band eisiau creu cerddoriaeth gyflym, uniongyrchol a dawnsiadwy.
Mae gwaith celf eiconig Malcolm Gwyon, dan ddylanwad Mondrian, wedi dod yn gyfystyr â diwylliant pop dechrau’r 80au a’r symudiad o roc trwm i gerddoriaeth garej.
“Dyma record sy’ wir yn rhoi perspectif arall ar ganeuon bytholwyrdd Ail Symudiad” meddai Huw Stephens am y record newydd.
“Roedd eu annogaeth i artistiaid newydd yn enwog; allai ddim ond dychmygu yr hapusrwydd bydde clywed y fersiynnau newydd yma wedi dod iddynt.”
‘Dathliad o ysbryd creadigol’
Un sydd wedi cyfrannu at y record ydy Gwen, sef prosiect unigol newydd Gwenllian Anthony o’r band Adwaith.
“Mae’n anrhydedd enfawr i gael bod yn rhan o’r prosiect yma” meddai Gwenllian.
“Mae Ail Symudiad yn icons enfawr yng nghorllewin Cymru a thu hwnt ac roedd yn bleser enfawr i recordio fersiwn fy hun o ‘Analysis ar Unwaith’.”
Un arall sydd ȃ chân ar yr albwm ydy Gwenno.
“Braint oedd cael ailddychmygu Sefyll ar y Sgwâr a chael dod i nabod y gân yn well. Mae’n ddiffuant yn ei mynegiant, ac yn ddathliad o ysbryd creadigol Aberteifi” meddai.
Mae’r band o’r Gorllewin, Los Blancos hefyd wedi cyfrannu trac ac yn amlwg ȃ meddwl mawr o Ail Symudiad.
“Mae anogaeth ac angerdd Richard a Wyn wedi ein siapio mewn ffyrdd sy’n amhosib mesur a dyw hi ddim yn orliwiad i ddweud byse Los Blancos ddim yn bodoli heb Ail Symudiad.”
Wrth arwain at y dyddiad rhyddhau, mae pedair o ganeuon yr albwm yn cael eu rhyddhau fel senglau i gynnig blas cyn y dyddiad rhyddhau ar 24 Gorffennaf.
Senglau
‘Symud Trwy’r Haf’ – Martha Elen – 15 Gorffennaf
‘Castell Aberteifi’ – Lafant – 17 Gorffennaf
‘Nos Lun o Flaen y Llun’ – HMS Morris + Pys Melyn (sengl ddwbl / double single) – 22 Gorffennaf
‘Cymry Am Ddiwrnod’ – Cyn Cwsg gyda Lleucu Non – 22 Gorffennaf