Sengl ddiweddaraf Carwyn Ellis & Rio 18

‘Shades of Red’ ydy enw sengl ddiweddaraf Carwyn Ellis & Rio 18 a’r ail gân i’w ryddhau oddi ar albwm newydd y prosiect, ‘Haf’. 

Mae’n cynnwys cyd-weithredwraig hirdymor Rio 18, Nina Miranda (Smoke City, Nitin Sawhney), wrth iddi restru rhai arlliwiau o goch — 17 i gyd!

Dyma’r gân olaf o sesiynau’r grŵp yn y stiwdios chwedlonol Toerag yn 2023, a ffurfiodd yr LP ‘Fontana Rosa’. 

Yn wreiddiol yn alldoriad o sesiwn jamio, cymerodd Carwyn ei amser gydag hon – gan ysgrifennu’r geiriau flwyddyn yn ddiweddarach, ac yna addurno’r gân ymhellach gyda ffliwt gan Jim Hunter (Amy Winehouse, Primal Scream, Liam Gallagher) a detholiad cyfan o offerynnau taro Brasil gan Andre Siqueira (Ivan Lins, Simone, Rogé, Antonio Adolfo). 

Y canlyniad terfynol yw anghenfil o drac Lladinaidd sy’n dechrau’n ddirgel cyn mynd i gyfeiriad mwy gwyllt – ac yn gochach – wrth iddo fynd ymlaen!

Mae ‘Haf’ ar gael i’w archebu ar LP a CD nawr drwy Bandcamp a Bubblewrap Collective, a bydd ar gael yn ddigidol ac o’ch siop recordiau lleol ar 6 Chwefror.