Cyhoeddi amserlen Yr Arfordir Amgen

Mae’r trefnwyr gwyl newydd ‘Yr Arfordir Amgen’ ym Mae Colwyn wedi cyhoeddi manylion eu amserlen lawn.

Cynhelir yr ŵyl ar 24 Ionawr, gyda gigs mewn pedwar lleoliad yn nhref Bae Colwyn.

Mae’r arlwy yn cynnwys enwau cyfarwydd fel Peiriant, Osgled, Pasta Hull, Crwban, Hap a Damwain a Chwaer Fawr.

Bydd yr artistiaid i’w gweld mewn pedwar lleoliad sef Ink, Sheldons Cafe Bar, The Station Inn a The Bay Hop.

Mae’r amseroedd llwyfan llawn i’w gweld ar dudalen Facebook yr ŵyl neu isod.