Anna Arrieta ydy’r artist diweddaraf a ddaeth i amlygrwydd ar gyfres deledu Y Llais i ryddhau cerddoriaeth ar label Côsh.
‘Sweep Me’ ydy enw’r sengl ganddi sydd allan ganddi nawr.
Mae Anna’n dysgu Cymraeg ar hyn o bryd ac mae’r sengl newydd yn un ddwy-ieithog.
Wedi’i chyd-ysgrifennu a’i gynhyrchu gan y cerddor Ifan Pritchard (Gwilym), ‘Sweep Me’ yw sengl ddwyieithog gyntaf y gantores-gyfansoddwraig o Gymru.
Mae’r trac yn amlygu dawn leisiol a phersonoliaeth gref Anna – yn ogystal ag adlewyrchu ei thaith yn dysgu’r Gymraeg.
Daliodd Anna Arrieta sylw’r cyhoedd yn wreiddiol yn 2025, wrth iddi gyrraedd rownd derfynol rhaglen Y Llais, yn cynrychioli Tîm Yws. Helpodd ei pherfformiadau ar y sioe — gan gynnwys canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf — i danio’i chysylltiad â’r iaith ac ehangu ei phroffil artistig yng Nghymru.
Yn byw yng Nghaerdydd ac yn greadigol ar draws sawl arddull gerddorol, mae Anna wedi bod yn rhan o’r sin gerddoriaeth Gymreig ers peth amser bellach ac yn gweithio yn y sector celfyddydau creadigol hefyd.
Mae ‘Sweep Me’ yn cyfuno geiriau emosiynol â chynhyrchiad deinamig, gan adlewyrchu taith Anna fel artist sy’n datblygu’n gyflym, a’i hegni gydweithredol gydag Ifan Pritchard.
Y canlyniad yw sengl haenog, obeithiol sy’n nodi cam cyntaf beiddgar yn ei gyrfa recordio ar Côsh – ac yn arwydd o fwy o gerddoriaeth i ddod.
Mae gan Recordiau Côsh Records hanes o gefnogi artistiaid sy’n dod i’r amlwg o Y Llais a llwyfannau eraill, ar ôl rhyddhau cerddoriaeth gan Hanna Seirian, Sara Owen, a Bethany Powell – gyda rhyddhad arall cyn bo hir gan Stephen Hallwood wedi’i ddynodi ar gyfer mis Chwefror. Mae ‘Sweep Me’ yn parhau â’r ymrwymiad yma i hyrwyddo talent newydd Cymru.