Sengl newydd Tokomololo

Mae’r artist electronig gweithgar, Tokomololo, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.  

‘Deffro’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar labell  HOSC ers dydd Gwener diwethaf, 23 Ionawr. 

Yn dilyn cyhoeddi ei daith gyntaf gyda Klust wythnos diwethaf, mae Tokomololo yn camu mewn i 2026 gyda sain sy’n symud, sy’n esblygu ac yn bwysicach, yn eich tynnu i’w fyd ei hun. 

Prosiect Meilir Tee Evans ydy Tokomololo ac mae wedi bod yn weithgar iawn ers dod i’r amlwg ar ddiwedd 2023 gan ryddhau cynnyrch yn gyson. 

“Mae defnyddio’r haul yn codi fel trosiad am ‘ddechrau newydd’ yn syniad cyfarwydd” eglura Meilyr wrth drafod y sengl newdd. 

“Mae ‘Deffro’ yn trio mynd a’r syniad yna gam ymhellach drwy adael i’r gân gyfan ymgorffori’r trawsnewidiad hwnnw. 

“Mae’r geiriau’n awgrymu dechrau newydd araf, heb ei ruthro, sy’n cael lle i ddatblygu’n naturiol, gyda gweadau bregus yn y cefndir, bron fel adar y wawr.

“Mae’r trac yn dechrau’n dyner cyn adeiladu’n raddol tuag at synth sgrechlyd sy’n cychwyn allan o amser, ond sy’n araf ddod o hyd i’w rhythm – gan adlewyrchu’r eiliad mae’r haul yn codi’n llawn a diwrnod newydd yn dechrau’n hyderus.”

Mae cyfres o gigs ar y gweill gan Tokomololo dros y misoedd nesaf mewn cydweithrediad a zine Klust. 

Gigs Tokomololo

29 Ionawr – Holding Patterns, Leeds

19 Chwefror – Next Door Records Two, Llundain 

31 Mawrth – Future Yard, Penbedw 

Dyma ‘Deffro’: