Mae Angharad Rhiannon wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 5 Mehefin.
‘Dal Dy Dir’ ydy enw’r sengl sy’n gân llawn gobaith a goleuni yn ôl yr artist.
Gyda geiriau calonogol, mae “Dal Dy Dir” yn cynnig neges syml ond pwerus: hyd yn oed yn ystod y stormydd mwyaf, daw’r haul yn ôl.
Mae’r gân yn siarad yn uniongyrchol at unrhyw un sydd wedi wynebu pwysau, colled neu her bersonol yn ôl Angharad.
“Ro’n i ishe creu rhywbeth fyddai’n codi calon pobl ac yn eu hatgoffa bod goleuni wastad ar y gorwel” eglura’r gantores o Aberdâr.
Yn ogystal â’i gwaith fel artist recordio, roedd Angharad yn cyflwyno ar lwyfan Gŵyl Fach y Fro ar 16 Mai, ac mae hefyd wedi’i gwahodd i feirniadu Brwydr y Bandiau Eisteddfod Pontypridd ar 4 Gorffennaf eleni.
Mae Angharad hefyd yn cyflwyno sioeau radio misol ar GTFM a Bro Radio, gan gefnogi a hyrwyddo cerddoriaeth a thalent Gymreig newydd.
Mae’r sengl ar gael ar bob prif lwyfannau ffrydio gan gynnwys Spotify, Apple Music ac Amazon Music.
Bydd y sengl hefyd yn cynnwys fersiwn Saesneg o’r gân, sef ‘Rocksteady Heart’.