Sengl newydd Calfari’n cadarnhau atgyfodi

Wythnos ar ôl cyhoeddi eu bod nhw am ddychwelyd i gigio ym mis Medi eleni, mae’r band Calfari nawr wedi rhyddhau eu sengl newydd.

‘Nôl Mewn Amser’ ydy enw’r trac newydd gan y band o Fôn a ffurfiodd yn wreiddiol yn 2014, ond sydd wedi bod yn segur ers 2022.

Daw’r sengl newydd bron i ddegawd ers iddynt ryddhau eu cynnyrch diweddaraf, sef eu halbwm ‘Gorwelion’ yng Ngorffennaf 2017. 

Cyhoeddodd y grŵp eu bod nhw am chwalu rhyw ddeunaw mis yn ddiweddarach, ond maen nhw wedi gigio ers hynny gyda’r gig diwethaf yn 2022. 

Wythnos diwethaf datgelwyd ar gyfryngau cymdeithasol Calfari y byddai’r band yn dychwelyd i’r llwyfan ar gyfer gig yn y Bull Inn, Llanerchymedd ar 4 Medi eleni, gyda chefnogaeth ar y noson gan Cordia a Glain Rhys.

Rhyddhawyd y sengl newydd ddydd Gwener diwethaf, 5 Mehefin, fel arwydd pellach bod Calfari wedi ail-ffurfio o ddifrif ac yma i aros. 

Adeg naturiol i ddod nol

Calfari ydy Bryn Hughes Williams, Tomos Gashe, Sion Jones, Gavin Malone, Dave Woodhouse ac Elin Angharad Williams ac fe gawsom nhw dipyn o lwyddiant yng nghanol y ddegawd diwethaf gan ddenu dilyniant a hefyd ennill gwobr ‘Record Fer Orau 2015’ Gwobrau’r Selar am yr EP ‘Nôl ac Ymlaen’. 

Er nad ydyn nhw wedi perfformio fel Calfari ers ychydig flynyddoedd, mae’r aelodau wedi bod yn weithgar yn gerddorol – yn fwyaf arwyddocaol, mae Bryn a Tom wedi bod yn brysur gyda’r band roc Ffatri Jam, tra bod Sion wedi bod yn chwarae gitâr i’r band arall poblogaidd o Fôn, Fleur de Lys. 

“Odd o jyst yn teimlo fel yr amser cywir i orffen ar y pryd, oherwydd roedd gynon ni blant bach” eglura Bryn Hughes Williams, prif ganwr y band mewn sgwrs gyda gwasanaeth newyddion golwg360

“Odd o fel rhyw pivotal moment yn ein 20au ni lle o’n ni i gyd yn dechrau tyfu fyny a commitio.

“Felly rŵan, odd o jyst yn adeg naturiol i ni ddod nôl at ein gilydd ac ailffurfio.”

“Nath ni ddechrau cael sgwrs am y peth, ac odd pawb i weld on board ac yn teimlo’n rili excited i neud o eto.

“Odd ’na lot o amser wedi pasio, ac o’n ni’n teimlo fel oddan ni’n colli allan ar neud o. Odd o’n rhywbeth oddan ni o hyd isio’i neud eto. Odd y drws erioed wedi cau.”

Yn ôl y band mae cynlluniau ganddynt i ddychwelyd i gigio’n fwy eang ar ôl y gig yn Llanerchymedd fis Medi. Mae tocynnau’r gig hwnnw ar werth nawr.  

 

 

Gadael Ymateb