Mae’r band nu-metal o Fangor, C E L A V I, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 14 Awst.
Daw’r sengl yn dilyn eu perfformiad hanesyddol yng Ngŵyl Download fel y band cyntaf i berfformio yn y Gymraeg yno, ac mae ‘Ar Dy Liniau (On Your Knees)’ yn anthem ddiwydiannol nu-metal ffyrnig.
C E L A V I ydy’r ddeuawd Sarah Wynn Griffiths a’i gwr Gwion Griffiths.
Yn dilyn cefnogaeth ddiweddar gan Metal Hammer a Kerrang! Radio, mae’r trac yn cyfuno ymosodedd nu-metal cynnar y 2000au â dwyster diwydiannol. Yn ffrwydrol ac yn gathartig, mae’n archwilio trugaredd, maddeuant a’r galw am barch – themâu sy’n dod yn fyw yn y fideo cerddoriaeth a ffilmiwyd yn yr eiconig Church, lleoliad sy’n eiddo i Oli Sykes (Bring Me The Horizon).
Cafodd y trac ei recordio, ei gynhyrchu, ei gymysgu a’i feistroli gan Romesh Dodangoda (Bring Me The Horizon, Motörhead, Nova Twins).
“Mae ‘Ar Dy Liniau (On Your Knees)’ yn drac gonest a hynod gathartig sy’n ymwneud ag wynebu’r bobl a’r sefyllfaoedd sy’n gwthio ffiniau ac yn methu dangos parch i chi” meddai Sarah.
“Mae’n sôn am ddod o hyd i’r nerth i sefyll eich tir, ymladd yn ôl a mynnu cael eich clywed.”
I gyd-fynd a’r sengl, mae’r band hefyd wedi ffilmio fideo ar gyfer y trac, fel yr eglura Gwion.
“Da ni’n teimlo bod y trac hwn yn crynhoi dwyster ffyrnig ein sain, gan gyfuno ein dylanwadau nu-metal cynnar o’r 2000au efo ymyl diwydiannol tywyllach a mwy modern” meddai.
“Fe wnaethon ni ffilmio’r fideo cerddoriaeth yn Church, lleoliad eiconig Oli Sykes (Bring Me The Horizon), sef y lleoliad perffaith i ddod ag egni crai ac emosiwn y gân yn fyw.”
Yn dilyn eu perfformiad arwyddocaol yng Ngŵyl Download, yn ogystal â SXSW London a FOCUS Wales, bydd C E L A V I yn parhau â’u cyfres o berfformiadau byw mawr gyda slot cefnogi i As December Falls yng Nghastell Cas-gwent y mis hwn, gyda chyhoeddiad gŵyl arall eto i ddod.
Mae modd dilyn taith C E L A V I i Ŵyl Download a gweld eu perfformiad hanesyddol yn cael ei ddal ar ffilm mewn rhaglen ddogfen arbennig o’r enw ‘Sgrechian’, a gynhyrchwyd ar gyfer platfform i bobl ifanc S4C, Hansh.