Cyn Cwsg yn rhannu sengl newydd cyn perfformio yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd 

Mae’r band Cyn Cwsg wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Mobius’, sydd allan ar label Lwcus T.

A hwythau wedi’u magu yng Ngogledd Cymru, ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, dyma sengl arall gan Cyn Cwsg, un sy’n troi tuag at agwedd ffwrdd a hi, a chysyniadau gwyllt. 

Mae’r gȃn yn adlewyrchu shift yn sŵn y band, o rhywbeth eithaf meddal i rhywbeth trwm.

Gyda geiriau dwyieithog, mae cyfuniad meddwol y band o indie-roc jagged a seicedelia heulog yn ddi-os yn datgelu eu teyrngarwch i allforion enwocaf eu gwlad genedigol yn y 1990au. Ond maen nhw’n gwneud hynny gyda’r fath ddewrder cyfansoddi a’r fath optimistiaeth heintus nes ei bod hi’n anodd gwrthsefyll, gan eu gosod ar flaen y gad o ran cenhedlaeth newydd o fandiau indie Cymraeg.

Fel un a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Green Man Rising eleni, ar ôl cael eu dewis gan banel dethol o arbenigwyr y diwydiant, ac ar fin chwarae yn yr ŵyl yn ddiweddarach y mis hwn, mae Cyn Cwsg yn parhau i adeiladu ar eu perfformiadau nodedig yn The Great Escape a Sŵn. 

Yn dilyn rhyddhau cân dyner yn y gwanwyn, ‘Megan Plis’, ac EP cyntaf y band haf diwethaf, ‘Pydru Yn Yr Haul’, mae’r band bellach yn taflu pob gofal i’r gwynt gyda sŵn gwyllt, pigog a geometrig eu sengl newydd, ‘Mobius’, sydd allan ers 11 Awst.

Ar ôl cael ei pherfformio am y tro cyntaf ar 6Music gan Nathan Shepherd ar raglen Indie Forever, ac yn parhau â’u cydweithrediad â’r cynhyrchydd Tom Rees (Buzzard Buzzard Buzzard, The Bug Club, Do Nothing, Panic Shack), mae ‘Mobius’ yn tynnu ysbrydoliaeth o’r ffenomen fathemategol enwog sydd ag un ochr ac un ymyl, gan gyflwyno eu recordiad mwyaf uniongyrchol, trawiadol ac anhrefnus hyd yma. 

“un eitha mental”

Mae’r gân wedi’i phlethu â gitâr yn arddull Television, geiriau sy’n gwyro o’r confensiynol, a chytgan fuddugoliaethus.

“Ar yr wyneb, mae’r gȃn yn swnio fel un eitha mental sydd wedi cael ei strwythuro’n fanwl” eglura Obed o’r band am y sengl.  

“Ond nid dyna’r ateb mae geni ofn. Mae’r dylanwad yn glir, y Mobius Strip. Sgwenais y gȃn yn fy awr ginio i pan oedd fy mhen i’n atseinio am ryw ddihangfa wrth i mi wneud yr anochel o sgrolio ar fy ffôn, pan nes i ddod ar draws y Mobius strip.

“Yn wreiddiol roedd y gân yn un eithaf blasé hamddenol, cyn i mi gyflwyno’r gân i’r band. Roedden ni’n eithaf prin ar amser gyda’r recordio dim ond wythnosau/diwrnodau i ffwrdd. Y teimlad oedd ein bod angen mynd yn drymach ac gyda hynny yn fwy gwallgo. 

“Cawn weld ysbrydoliaeth o ganeuon tebyg gan bandiau fel Eagles of Death Metal hefo’r gân ‘I Want you So Hard’ ac The Bug Club gyda’r gân ‘Love is a Painting’. Oeddna golli pen go iawn yn y stiwdio, ond oedd o’n lot o hwyl!” 

 

Gadael Ymateb