Sengl newydd Cleif Harpwood

Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 16 Ionawr.

‘Paid a Phwyntio Bys’ ydy’r trac diweddaraf gan ganwr y band enwog Edward H Dafis, ac mae allan ar label Recordiau Sain.  

Wedi iddo ddychwelyd i’r stiwdio y llynedd, a hynny yn dilyn cyfnod o 45 o flynyddoedd ers recordio ‘Plant y Fflam’, albwm olaf Edward H Dafis, dyma’r ail sengl i Cleif Harpwood ryddhau o’i gasgliad newydd o ganeuon.

Recordiwyd ‘Paid â phwyntio Bys’ yn StudiOwz, Sir Benfro, ac mae’r cerddorion sy’n perfformio ar y trac yn bennaf o’r ardal honno hefyd. 

“Mae ‘Paid â phwyntio bys’ â’i gwreiddiau yng nghyfnod Ac Eraill, grŵp y bu’m yn aelod ohono ar ddechrau’r 1970au” eglura Cleif. 

“…ond ni ddatblygwyd y gân, ac mae geiriau ei chytgan wedi aros mewn pensil yn un o fy llyfrau lloffion am dros hanner canrif.

“Mae pob cenhedlaeth newydd yn dueddol o feio’r genhedlaeth o’i blaen am holl ddiffygion y byd, ond dyw natur dyn byth yn newid o genhedlaeth i genhedlaeth. Fel un o gyfnod y ‘baby boomers’, plediaf mai ‘nid arna’i y mae’r bai’.”

Cafodd y gân ei chynhyrchu gan Geraint Cynan a’i chymysgu gan Lee Mason. 

 

Gadael Ymateb