Cleif Harpwood yn rhyddhau trac coll Edward H
Mae Cleif Harpwood yn parhau â’i flwyddyn weithgar wrth iddo ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Ti’n hapus nawr?’.
Mae Cleif Harpwood yn parhau â’i flwyddyn weithgar wrth iddo ryddhau ei sengl ddiweddaraf, ‘Ti’n hapus nawr?’.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau’r sengl ddiweddaraf o’i gasgliad newydd o ganeuon. ‘Ail Chwyldro’ ydy enw’r bedwaredd sengl ganddo o’i albwm newydd.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei drydedd sengl o blith casgliad newydd o ganeuon. Mae ‘Rhythm yn y Glaw’ yn gân arbennig i goffáu y diweddar Charli Britton, drymiwr Edward H Dafis a ffrind mynwesol i Cleif a gweddill y band chwedlonol.
Mae Cleif Harpwood wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 16 Ionawr. ‘Paid a Phwyntio Bys’ ydy’r trac diweddaraf gan ganwr y band enwog Edward H Dafis, ac mae allan ar label Recordiau Sain.
Yn dilyn cyfnod o 45 o flynyddoedd ers recordio ‘Plant y Fflam’, albwm olaf Edward H Dafis, mae prif leisydd y band, Cleif Harpwood, wedi dychwelyd i’r stiwdio i recordio casgliad o 11 o ganeuon, i’w rhyddhau yn ystod 2025-2026.