Mae’r gantores werin Mari Mathias wedi cyhoeddi manylion taith hyrwyddo ei albwm newydd. ‘Cyfarwydd’ ydy enw’r record hir a ryddhawyd ganddi ar 16 Ebrill.
Nawr mae’n paratoi ar gyfer taith hyrwyddo fydd yn dechrau ar 29 Ebrill ac yn ei gweld yn perfformio mewn 9 o gigs.
Mae’r gyfres o gigs eisoes wedi dechrau yng Ngŵyl Lenyddiaeth Llandeilo ar 25 Ebrill, a bydd yn symud ymlaen i berfformio yn y Borough Theatre, Y Fenni nesaf ar 29 Ebrill.
Wedi hynny bydd cyfleoedd i’w gweld ym Mhontypridd, Caernarfon, Glastonbury, Wrecsam, Abertawe, Ystradgynlais, Tre’r Ddôl ac Abergwaun.
Bydd yn cael cwmni’r artistiaid gwerin Angharad a Patrick Rimes ar y daith. Dywed Mari y bydd rhagor o gigs i’w cyhoeddi ganddi dros yr haf ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Dyddiadau Taith ‘Cyfarwydd’:
29 Ebrill – Borough Theatre, Abergwaun
30 Ebrill – Y Muni, Pontypridd
01 Mai – Galeri, Caernarfon
02 Mai – Eglwys St Benedict, Glastonbury (Gwyl All Roads)
07 Mai – Focus Wales, Wrecsam
08 Mai – Canolfan Gelfyddydau Taliesin, Abertawe
09 Mai – Neuadd Les Ystradgynlais
10 Mai – Canolfan Gymunedol Cletwr, Tre’r Ddôl (Ger Aberystwyth)
22 Mai – Gwyl Werin Abergwaun