Trac Gŵyl Dewi er cof am Mike Peters

Mae Rhys Meirion wedi rhyddhau sengl newydd ar y cyd a Dylan ac Evan Peters, sef meibion y diweddar Mike Peters, canwr The Alarm.

‘Cofio Dewi Sant’ ydy enw’r sengl newydd a ryddhawyd ar ddydd Gŵyl Dewi. 

Dros y blynyddoedd, roedd Rhys Meirion wedi dod yn dipyn o ffrindiau gyda Mike Peters. 

Hyd y diwedd, roedd y ddau mewn cysylltiad cyson, ac roedd y neges destun olaf a dderbyniodd Rhys gan Mike yn un freintiedig iawn. Ei ddymuniad oedd i Rhys wneud fersiwn Gymraeg o’i gân ‘St. David’s Day’ a’i rhyddhau ar Ddydd Gŵyl Dewi 2026.

You need to record this yn Gymraeg for 2026!!!”, meddai Mike, ac felly penderfynodd Rhys gydweithio gyda meibion Mike, Dylan ac Evan, ar y recordiad arbennig yma, yn ogystal â chôr meibion lleol i Mike sef Côr Meibion Trelawnyd.

Aled Wyn Hughes ac Osian Huw Williams sy’n gyfrifol am gynhyrchu a pheiriannu’r gân yn Stiwdio Sain, ac mae’r cwbl wedi ei ddogfennu mewn rhaglen gan Cwmni Da a ddarlledwyd ar S4C ar 1 Mawrth.