Rhyddhau sengl newydd Lafant

Mae Lafant wedi cynnig blas o’u halbwm cyntaf gyda sengl newydd.

‘O! Mor Las’ ydy enw’r sengl newydd sydd, yn ôl y band, am deimlo’n las! 

Triawd roc o Sir Benfro ydy Lafant ac mae’r sengl newydd allan ar label cymunedol Fflach Cymunedol. Mae ‘O! Mor Las’ yn awgrymu sain aeddfetach ar gyfer yr albwm sydd ar y gweill.

Mae’r gân hon yn uniongyrchol. O’i llinell agoriadol “teimlo’n las”, wedi’i hymestyn fel sgrech llawn hunan-gasineb, mae ei chynnwys geiriol yn awgrymu dynion ifanc yn cwestiynu’n fewnol eu dewisiadau, gan ystyried ble maen nhw’n perthyn wrth iddyn nhw symud i ffwrdd o’u harddegau.

Yn gerddorol, mae cyfeiriadau at ffefrynnau Britpop The La’s a The Bluetones yn ogystal ag arwyr y band, Big Leaves, ond wedi’i berfformio gydag angerdd. Erbyn y gytgan olaf a’r pylu allan dros twang tebyg i’r Smiths, bydd y gwrandäwr yn gwybod eu bod wedi cael eu taro gan rywbeth sylweddol.

Ysgrifennodd prif leisydd carismatig y band Mefin Hughes y gân fel llythyr wrth ei hun fel llanc at ei hun nawr. 

“Mae’n gân am weld eich hunan fel oedolyn” eglura Mefin.

“… yr holl bethau twp chi ‘di’u ‘wneud, yr holl ddewisiadau gwael, y pethau drwg chi’n eu ‘wneud i’ch corff a’ch meddwl, a gofyn ai dyma pwy we ti’n meddwl y byse ti?”

Mae fideo cerddorol yn cael ei ryddhau i gyd-fynd â’r sengl sydd wedi’i ariannu drwy Cronfa Arloesi Fideos Cerddorol, Prifysgol Aberystwyth. 

Mae’r fideo wedi ei ysbrydoli gan ffilmiau arbrofol cyfnod expressionist yr 1920au ac wedi ei gyfarwyddo gan Nico Dafydd mewn cydweithrediad â’r animeiddiwr Lleucu Elisa, sydd yn ddiweddar wedi creu fideo i’r band Dewin a ffilm ddogfen yn olrhain hanes ail-ddechrau gwaith Fflach. 

‘Segurdod’ fydd enw albwm cyntaf y band ifanc o Sir Benfro, ac mae’n dilyn yr EP ‘Y Fodrwy’ a’u sengl ddwbl ‘Eira Gwyn/Borthroc’ a ryddhawyd yn 2025. 

Mae uniongyrchedd a gonestrwydd ‘O! Mor Las’, ynghyd â’r sain dyfnach, yn awgrymu albwm yn llawn syniadau newydd tra bod y cyfansoddwr Mefin Hughes yn parhau i ddarganfod bachyn cerddorol ar ôl bachyn cerddorol ymhlith y gitars chwyrlïol a’r drymiau gwyllt. 

Bydd yr albwm ‘Segurdod’ yn cael ei ryddhau ar 20 Mawrth ar Fflach Cymunedol.

Dyma’r fideo: