Troi tor-calon yn anthem bop hafaidd gan Betsan

Mae’r artist dwyieithog o Gaerdydd, Betsan, wedi dychwelyd gyda’i sengl newydd, ‘Erase It’, sydd allan ers 12 Awst.

Wedi’i chyd-ysgrifennu gyda Lewys Meredydd o’r band WRKHOUSE, mae’r gân yn anthem bop ddisglair, chwerwfelys sy’n archwilio’r dryswch sy’n gallu dilyn diwedd perthynas. 

Gan gyfuno alawon heintus â geiriau gonest a phersonol, mae ‘Erase It’ yn gam hyderus arall ymlaen i un o artistiaid pop ifanc mwyaf cyffrous Cymru.

Yn canolbwyntio ar ganlyniadau tor-perthynas, mae’r gân yn dal y teimlad o wylio rhywun yn symud ymlaen tra’ch bod chi’n dal i geisio gwneud synnwyr o’r hyn a ddigwyddodd. Mae’n sôn am roi popeth i rywun, dim ond i deimlo fel petae chi’n ddieithryn yn y pen draw, y cyfan wedi’i lapio mewn sain bop hafaidd sy’n cyferbynnu â’i chraidd emosiynol.

“Ro’n i eisiau ysgrifennu cân gariad oedd yn dal yn hwyl i wrando arni” meddai Betsan am y sengl.  

“Mae torri calon yn rhywbeth mae pawb yn mynd drwyddo, ac roedd y syniad o roi’r teimladau hynny mewn cân bop hafaidd, teimladwy yn apelio ata i. 

“Roedd ysgrifennu’r gân gyda Lewys yn broses mor bleserus, a dwi’n falch iawn o’r ffordd mae hi wedi troi allan.” 

Gan dynnu ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Olivia Dean, Sabrina Carpenter a Lizzy McAlpine, mae Betsan yn parhau i ddatblygu sŵn sy’n cyfuno pop cyfoes â chyfansoddi caneuon gonest a theimladwy.

Yn wreiddiol o Gaerdydd ac erbyn hyn yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Llundain, mae Betsan wedi bod yn adeiladu momentwm yn gyson. Cafodd ei sengl Gymraeg gyntaf, ‘Awst’, ei dewis ar gyfer Rhestr A-List BBC Radio Wales ac fe’i henwyd yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru. Mae’r trac hefyd wedi’i chynnwys ar y record feinyl aml-gyfrannog, ‘Selar3’, a ryddhawyd gan gylchgrawn Y Selar. 

Mae hi hefyd wedi perfformio yng nghyfres New Music Monday y cyflwynydd BBC Radio 1, Jodie Bryant, yn The Ned yn Llundain, wedi cefnogi Ben Ellis yn Clwb Ifor Bach, ac wedi derbyn Cronfa Launchpad Gorwelion.

Gydag ‘Erase It’, mae Betsan yn cyflwyno anthem dor-perthynas sy’n cofleidio’r boen a’r broses o symud ymlaen, gan brofi y gall hyd yn oed yr emosiynau anoddaf ddod o hyd i’w lle mewn cân bop berffaith ar gyfer yr haf.

 

Gadael Ymateb