Rhestr fer Artist Unigol Gorau
Mae’r Selar wedi cyhoeddi rhestr fer ail gategori Gwobrau’r Selar eleni, sef Artist Unigol Gorau. A’r merched sydd wedi rheoli’r categori yma eleni, gyda Kizzy Crawford, Casi Wyn a Georgia Ruth Williams yn dod i frig y bleidlais gyhoeddus.