Abertawe a’r gynghanedd yn ysbrydoli ail sengl Llio Heledd
‘SA1 Abertawe’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Llio Heledd sydd allan ers 14 Awst. Yn dilyn rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Afon’ nôl yn 2024, mae Llio Heledd yn dychwelyd gyda’i hail sengl sy’n gân hafaidd ei naws sy’n ymfalchïo ym mro Abertawe a’i dociau.