Abertawe a’r gynghanedd yn ysbrydoli ail sengl Llio Heledd 

‘SA1 Abertawe’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf gan Llio Heledd sydd allan ers 14 Awst.  

Yn dilyn rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Afon’ nôl yn 2024, mae Llio Heledd yn dychwelyd gyda’i hail sengl sy’n gân hafaidd ei naws sy’n ymfalchïo ym mro Abertawe a’i dociau.

Daw Llio Heledd o Dreforys, Abertawe, ac wedi ei hastudiaethau yn Aberystwyth ac Utrecht, Caerdydd yw ei chartref bellach. 

Yno y dechreuodd gyfansoddi caneuon gyda’r gitâr, a cheisio’r gynghanedd. Gwelir defnydd o’r modd hynafol hwn o farddoniaeth Gymraeg yn ei chaneuon ac yn ei sengl gyntaf, ‘Afon’, sy’n adlewyrchiad ar ei phrofiad o fagwraeth Gymraeg yn Abertawe.

Cyfres o englynion a geir yn ‘SA1 Abertawe’, sy’n peintio darlun o lonyddwch a hyfrydwch ardal y Marina a’r Dociau yn Abertawe. Wedi sawl bore Sul yng nghwmni ei thad yn cael coffi wrth wylio’r cychod, y gwylanod, a phobl yn hamddenol fynd a dod, adlewyrcha’r gân awyrgylch y lle a’r teimlad mai prin yw’r llefydd brafiach.  

Disgrifia’r profiad drwy adlewyrchu ar droi ei hwyneb at yr haul a hwnnw’n brofiad unigryw. Â Dylan Thomas yn rhan annatod o’r ardal, ceir englyn amdano a chyfeiriad at y: “dinas bardd yn hardd a hyll”.

Caneuon acwstig a gwerinol eu naws geir gan Llio Heledd, gyda’i chaneuon yn cyfuno barddoniaeth Gymraeg draddodiadol â chyfansoddi gwerinol cyfoes. Yn ddiweddar, bu’n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau, yn ogystal ag mewn lleoliadau yng Nghaerdydd gan gynnwys The Canopi a Paradise Gardens.

Crëwyd celf clawr trawiadol y sengl gan Esyllt Lewis, artist o ardal Abertawe, ac mae cryn edrych ymlaen at ryddhau ei fideo cerddorol cyntaf, a grëwyd gan yr animeiddiwr Lleucu Non, fydd ar gael yn fuan.

Gyda ‘SA1 Abertawe’, parha Llio Heledd i archwilio’r berthynas rhwng barddoniaeth, cerddoriaeth a lle, gan ddod â ffurfiau traddodiadol i gynulleidfa newydd drwy ganeuon gwerinol Cymraeg. 

Gadael Ymateb