EP ac aelod newydd Hyll

Mae EP cyntaf y grŵp ifanc o Gaerdydd, Hyll, allan ar label Recordiau JigCal nawr. Mae’r casgliad byr newydd yn dilyn dwy sengl sydd eisoes wedi’u rhyddhau ar label Meilir Gwynedd, sef ‘Diwedd Gwanwyn Tragwyddol Max Rockatansky’ ym Mehefin 2016, ac ‘Ysgol’ a ryddhawyd fel sengl ddwbl ar y cyd â’r grŵp ifanc arall o’r brifddinas, Cadno ym mis Hydref llynedd.