Llwyfan newydd i gerddoriaeth ar S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi manylion eu llwyfan cerddoriaeth newydd fydd yn dwyn yr enw ‘Miwsig’. Yn ôl y sianel deledu, bydd Miwsig yn gartref deinamig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, ac yn rhannu a dathlu talent gerddorol o bob cwr o’r wlad.