Llwyfan newydd i gerddoriaeth ar S4C

Mae S4C wedi cyhoeddi manylion eu llwyfan cerddoriaeth newydd fydd yn dwyn yr enw ‘Miwsig’. 

Yn ôl y sianel deledu, bydd Miwsig yn gartref deinamig ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, ac yn rhannu a dathlu talent gerddorol o bob cwr o’r wlad. 

Wrth gynnig cipolwg o’r hyn y gellir disgwyl ar Miwsig, mae S4C wedi datgelu y bydd dwy gyfres a fodcast yn rhan o’r gwasanaeth newydd. 

Elan Evans – y cyflwynydd a DJ o Gaerdydd  fydd yng ngofal y fodcast newydd, Maes Fi, gyda Molly Palmer ac Ifan Davies yn westeion. 

Y DJ o’r Cymoedd Molly Palmer fydd yn cyflwyno Stiwdio 247 – cyfres ffres sy’n dod a’r diweddaraf o’r sîn i’r sgrîn. 

Ac yn olaf, Ifan Siôn Davies, prif leisydd y band Sŵnami o Ddolgellau a chyflwynydd achlysurol ar Radio Cymru fydd yn gwahodd wynebau adnabyddus y wlad i ddewis eu tair hoff gân ar 3 Cân. 

I nodi lansiad Miwsig, bydd S4C yn cynnal y gig rhithiol (immersive reality) gynta yn y Gymraeg ar ddydd Sadwrn ola’r Eisteddfod yn Wrecsam (9 Awst) am 4pm gyda Dom a Lloyd.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal gan Condense, cwmni  sy’n arbenigo mewn digwyddiadau byw rhyngweithiol, ac mae’n rhan o brosiect ymchwil a datblygu S4C ar gyfer Cronfa Datblygu Media Cymru, sy’n anelu i arloesi fformatau ac ymgysylltu â gwylwyr iau. 

Gall unrhyw un ymuno gyda’r gig rhithiol gyda’r artistiaid yn perfformio ar ben eu hunain mewn stiwdio. Bydd camerâu darlledu yn dal y perfformiad, a’i ryddhau’n uniongyrchol i ddefnyddwyr mewn gofod rhithwir ar ffurf hologramau gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial. Mae gwybodaeth am sut i ymuno ar wefan S4C.   

“Rydym yn falch o lansio llwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth gyfoes o Gymru, gan roi cyfle i fandiau ac artistiaid gyrraedd cynulleidfa ehangach” meddai Beth Angell, Pennaeth Adloniant S4C.  

“Bydd Miwsig yn arddangos egni, creadigrwydd ac amrywiaeth y sîn gerddorol yng Nghymru heddiw.”

“Roedden ni’n awyddus i lansio Miwsig gyda digwyddiad gwahanol, modern a hygyrch felly be  well na gig IR gynta’r iaith Gymraeg? Y cwbl sydd angen ei wneud yw dilyn dolen neu gôd QR, a mwynhau’r miwsig.”  

Dyma fydd gig rithiol gyntaf Dom a Lloyd hefyd ers iddyn nhw ddechrau perfformio  gyda’i gilydd yn 2017.  

“Mae hi’n fraint mawr i gael y cyfle i wneud rhywbeth mor arloesol sydd heb ei wneud yn y Gymraeg o’r blaen” meddai’r ddeuawd. 

“Rydym ni’n edrych mlaen at y sesiwn ac yn gobeithio bydd llawer o bobl yn ymuno gyda ni i rannu’r vibe a’r hwyl.” 

Bydd cynnwys Miwsig yn dechrau darlledu ar draws platfformau S4C yn yr hydref.