Sengl Raffdam allan nawr

Mae’r diweddaraf o senglau Clwb Senglau’r Selar, sef ‘Llwybrau’ gan Raffdam, ar gael i’w lawr lwytho’n ddigidol nawr.

Y grŵp ifanc o Geredigion ydy’r wythfed grŵp i ryddhau eu cynnyrch cyntaf trwy’r cynllun sy’n bartneriaeth rhng cylchgrawn Y Selar a label Rasal.

“Rydan ni’n credu bod Raffdam yn grŵp ifanc sydd â llawer iawn o botensial” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone

“Mae eu sŵn gwerin cyfoes nhw’n efelychu arddull sy’n boblogaidd iawn ar hyn o bryd, a dwi’n credu y byddan nhw’n gwneud eu marc dros y blynyddoedd nesaf. Gobeithio bod rhyddhau eu sengl gyntaf gyda’r Clwb Senglau’n rhoi sylfaen da iddyn nhw.”

Mae sengl ar gael i’w lawr lwytho nawr trwy wefan Sain, ac ar iTunes.