Os ydach chi wedi cael cip rhwng cloriau rhifyn newydd Y Selar fe fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi lansio proses bleidleisio’r gwobrau erbyn hyn.
Rydan ni eisoes wedi datgelu bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yn Aberystwyth unwaith eto, a hynny ar benwythnos 17-18 Chwefror 2017. Undeb y Myfyrwyr fydd y lleoliad am y drydedd flwyddyn yn olynol, ond mae’r digwyddiad yn tyfu eto a bydd gweithgareddau mewn lleoliadau eraill yn Aber dros y penwythnos.
Barn y darllenwyr
Mae’n bwysig bod Gwobrau’r Selar yn adlewyrchu eich barn chi, y gynulleidfa a darllenwyr Y Selar, gymaint â phosib ac rydan ni am weld cymaint â phosib o bobl yn pleidleisio dros bob un categori. Dyna pam fod Panel Gwobrau’r Selar yn llunio rhestr hir ar gyfer y categorïau gan wneud yn siŵr mai dim ond pethau sy’n gymwys sydd ar y rhestrau, a sicrhau nad oes unrhyw bleidleisiau’n cael eu gwastraffu.
Gallwch ddarllen mwy am ganllawiau Gwobrau’r Selar.
Ond cyn llunio’r rhestrau hir, mae cyfle i chi enwebu enwau ar gyfer pob categori – gwnewch hynny erbyn 2 Rhagfyr i wneud yn siŵr bod Panel Gwobrau’r Selar yn ystyried pawb a phopeth sy’n gymwys. Gallwch wneud hynny trwy yrru enwebiadau i – gwobrau-selar@outlook.com. Mae rhestr y categorïau isod.
Bydd y bleidlais gyhoeddus yn agor ar 10 Rhagfyr ac yn cau ar 8 Ionawr.
Cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar
Bydd 10 o bobl ar Banel Gwobrau’r Selar, a fydd yn gyfrifol am lunio rhestrau hir y gwobrau. Bydd 5 o’r panel yn gyfranwyr rheolaidd i’r Selar, a 5 yn ddarllenwyr selog o’r cylchgrawn – ac mae cyfle i chi fod yn un o’r 5 darllenwr lwcus!
Os hoffech chi’r cyfle i fod ar Banel Gwobrau’r Selar yna anfonwch nodyn e-bost at gwobrau-selar@outlook.com erbyn 2 Rhagfyr gyda ‘Panel Gwobrau’r Selar’ fel pwnc i’r neges, a brawddeg yn egluro pam yr hoffech fod ar y panel.
Y Categorïau
- Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg)
- Cân Orau (Noddir gan Ochr 1)
- Hyrwyddwr/wyr Gorau (Noddir gan Radio Cymru)
- Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa)
- Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno)
- Artist unigol Gorau (Noddir gan Rondo)
- Band neu artist newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion)
- Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Stiwdio Gefn)
- Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
- Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd)
- Offerynnwr Gorau (Noddir gan Goleg Ceredigion)
- Fideo cerddoriaeth gorau (Noddir gan S4C)
Rhaid i’r holl enwebiadau cynnyrch fod wedi eu rhyddhau ym mlwyddyn galendr 2016 i fod yn gymwys, a rhaid i’r digwyddiad byw fod wedi digwydd yn 2016. Mae canllawiau llawn y gwobrau ar www.y-selar.com
Enillwyr 2015
Record Fer Orau – Nôl ac Ymlaen – Calfari
Cân Orau – Trwmgwsg – Sŵnami
Gwaith Celf Gorau – Sŵnami – Sŵnami
Hyrwyddwyr Gorau – Maes B
Cyflwynydd Cerddoriaeth Gorau – Huw Stephens a Lisa Gwilym
Artist Unigol Gorau – Yws Gwynedd
Digwyddiad Byw Gorau – Maes B, Eisteddfod Meifod
Fideo Cerddoriaeth Gorau – Sebona Fi – Yws Gwynedd
Record Hir Orau – Sŵnami – Sŵnami
Band neu Artist Newydd Gorau – Band Pres Llareggub
Band Gorau – Sŵnami
Offerynnwr Gorau – Gwilym Bowen Rhys (Y Bandana / Plu)
Cyfraniad Arbennig – Datblygu