Mae’r rhestrau byr ar gyfer categorïau Gwobrau’r Selar bellach yn gyflawn ar ôl i ni gyhoeddi’r ddwy restr fer olaf heno (17 Chwefror).
Fel y gwyddoch, bydd enillwyr y 12 categori’n cael eu gwobrwyo yn y noson fawr yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma.
Y rhestrau byr diwethaf i’w cyhoeddi oedd ‘Digwyddiad Byw Gorau ’ a noddir gan Stiwdio Gefn, ac ‘Offerynnwr Gorau’ a noddir gan Goleg Ceredigion.
Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, Maes B yn Eisteddfod Maldwyn a Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula gan gwmni theatr Frân Wen ydy’r tri digwyddiad sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus eleni.
Roedd categori ‘Offerynnwr Gorau’ yn newydd i’r Gwobrau llynedd gyda Lewis Williams sy’n drymio i Sŵnami a Candelas yn cipio’r wobr. Mae’r rhestr fer eleni’n cynnwys Gwilym Bowen Rhys – Plu / Y Bandana, Guto Howells – Yr Eira, ac Owain Roberts – Band Pres Llareggub.
Bydd enillwyr y ddau gategori yma, ynghyd â’r 10 rhestr categori arall, yn cael eu datgelu yn noson Wobrau’r Selar yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth nos Sadwrn yma.
Mae rhai tocynnau ar ôl ar gyfer y digwyddiad ar hyn o bryd, ond y cyngor ydy prynu ymlaen llaw i fod yn saff. Dyma fanylion lle gallwch wneud hynny.
Rhestrau Byr Gwobrau’r Selar 2015 yn llawn:
Cân Orau (Noddir gan Ochr 1): Foxtrot Oscar – Band Pres Llareggub; Trwmgwsg – Sŵnami; Aberystwyth yn y Glaw – Ysgol Sul
Hyrwyddwr Gorau (Noddir gan Radio Cymru): Maes B; Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; 4 a 6
Cyflwynydd Gorau (Noddir gan Heno): Huw Stephens; Lisa Gwilym; Dyl Mei
Artist Unigol Gorau (Noddir gan Rondo): Gwenno; Yws Gwynedd; Welsh Whisperer
Band Newydd Gorau (Noddir gan Gorwelion): Terfysg; Cpt Smith; Band Pres Llareggub
Digwyddiad Byw Gorau (Noddir gan Y Stiwdio Gefn): Tafwyl; Maes B; Gig Candelas, Sbectol a Mr Phormula – Frân Wen
Offerynnwr Gorau (Noddir gan Coleg Ceredigion): Gwilym Bowen Rhys; Guto Howells; Owain Roberts
Gwaith Celf Gorau (Noddir gan Y Lolfa): Dulog – Brigyn; Sŵnami – Sŵnami; Mae’r Angerdd Yma’n Troi’n Gas – Breichiau Hir
Band Gorau (Noddir gan Brifysgol Aberystwyth): Candelas; Band Pres Llareggub; Sŵnami
Record Hir Orau (Noddir gan Rownd a Rownd): Tir a Golau – Plu; Sŵnami – Sŵnami; Mwng – Band Pres Llareggub
Record Fer Orau (Noddir gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg): Nôl ac Ymlaen – Calfari; Dy Anadl Di / Pan Ddaw Yfory – Yws Gwynedd; Bradwr – Band Pres Llareggub
Fideo Cerddoriaeth Gorau (Noddir gan S4C): Ble’r Aeth yr Haul – Yr Ods; Sebona Fi – Yws Gwynedd; Pan Ddaw’r Dydd – Saron