Mae HMS Morris wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau sengl ddwbl ar ddydd Gwener 28 Ebrill
Y ddwy drac fydd yn cael eu rhyddhau ydy ‘Arth’ a ‘Morbid Mind’ ac yn ôl y datganiad mae’r caneuon yn dangos pa mor amrywiol ydy dylanwadau’r band.
Mae ‘Morbid Mind’ yn archwilio’r tueddiad sydd ynddom oll i gael ein swyno gan yr afiach, y tueddiad sy’n gyfrifol am y diwydiant ‘murderabilia’, ac sy’n ein gorfodi rywsut i syllu ar ddamweiniau traffig. Swnio’n hyfryd bois!
Ychydig yn llai tywyll, mae ‘Arth’ yn deyrnged i anifail sy’n bwysig i ddiwylliannau o amgylch y byd fel symbol o gryfder ysbrydol, dewrder, a chydseiniad â chylchrediad y ddaear. Wrth i’r frwydr i achub ein cynefinoedd a’n cymunedau byd-eang ddwysau, mae HMS Morris yn ein hannog i sianel ysbryd yr Arth. Allwn ni ond cytuno â hynny – grrrrr.
Bydd selogion Y Selar yn cofio i HMS ryddhau eu halbwm cyntaf, Interior Design ym mis Tachwedd llynedd a bod yr albwm hwnnw’n gasgliad o ganeuon roedd y grŵp wedi bod yn perfformio dros y blynyddoedd diwethaf.
Yn ôl y band, maent yn edrych ymlaen i gyflwyno deunydd ffresh i gynulleidfaoedd y gyfres o gigs sy’n dechrau fis Ebrill.