Wicipop yn llwyddo

Byddwch yn cofio i Wicipedia Cymru gynnal digwyddiad ‘Wicipop’ arbennig fel rhan o benwythnos Gwobrau’r Selar fis diwethaf.

Ymdrech i annog mwy o bobl i roi cynnwys ‘pop’ Cymraeg ar y gwyddoniadur ar-lein, Wicipedia, ydy Wicipop ac roedd Y Selar yn falch iawn i gydweithio gyda nhw i gynnal gweithdai yn y Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Sadwrn 18 Chwefror.

Yn gynharach yr wythnos hon fe sylwon ni bod ein cyfeillion yn Ochr 1 wedi rhyddhau llwyth o luniau gwych o artistiaid sydd wedi ymddangos ar y gyfres ar Wicipedia dan drwydded agored – trysor gwerthfawr heb os.

Dyma gyfle gwych i ni gysylltu â Jason Evans, Wicipediwr Preswyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am hyn, ac i weld sut mae prosiect Wicipop yn mynd yn gyffredinol.

“Mae’r lluniau Ochr un yn grêt” meddai Jason yn frwd wrth Y Selar.

“Hanner cant o luniau proffesiynol o grwpiau sydd wedi chwarae yn fyw efo nhw yn y stiwdio. Maen nhw hefyd wedi cytuno rhannu rhagor yn y dyfodol.”

Tamaid bach neis iawn i aros pryd felly, ond beth yn union mae rhyddhau’r lluniau yma, neu unrhyw lun arall dan drwydded agored ar Wicipedia yn ei olygu?

“Mae’n bwysig iawn bod gennym ni mynediad agored i gynnwys o’r safon yma er mwyn i ni liwio erthyglau Wicipedia, a chreu cofnod parhaol o grwpiau Cymraeg ar un o wefannau mwya’r byd” eglura Jason.

“Mae cynnwys agored sydd ar Wicipedia, fel y delweddau yma yn perthyn i’r genedl, ac mae’r cynnwys ar gael i bawb, o ddilynwyr y bandiau i athrawon a myfyrwyr. Fi’n gobeithio bydd eraill yn dilyn yr agwedd arbennig mae Ochr 1 wedi dangos trwy ryddhau’r delweddau yma’n agored, er mwyn i bawb elwa.”

Felly i bob pwrpas, ond iddyn nhw gydymffurfio â manylion trwydded agored Wicipedia, mae modd i unrhyw un ddefnyddio’r lluniau yma – Gruff Rhys, Bendith, Casi, Yws Gwynedd, Candelas a llawer mwy yn eu mysg – yn rhad ac am ddim.

Ac yn ôl Jason mae prosiect Wicipop wedi bod yn llwyddiannus iawn hyd yma, gyda digwyddiad ym Mangor yn ddiweddar yn ogystal â hwnnw yn Aberystwyth ar benwythnos Gwobrau’r Selar.

“Ar y cyfan mae’r prosiect yn mynd yn wych. Hyd at hyn mae 288 o erthyglau newydd wedi eu creu, sydd wedi cael eu darllen bron 9000 o weithiau yn barod.”

“Mae 500 o erthyglau am fandiau mawr y byd yn cael eu paratoi gan ddefnyddio data agored ac mae Ochr 1, Y Selar, Y BBC, Coleg Cenedlaethol Cymru a Phrifysgol Bangor i gyd wedi rhannu cynnwys yn agored er mwyn i ni rannu trwy Wicipedia.”

Lot o wybodaeth gwerthfawr am y sin rydan ni’n ei charu ar gôf a chadw felly, newyddion da.

Os ydych chi’n awyddus i gyfrannu erthyglau neu gynnwys am gerddoriaeth Gymraeg ar Wicipedia yna mae digwyddiad arall yn cael ei drefnu gan Wicipop yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd ar ddydd Sadwrn 25 Mawrth, rhwng 13:00 a 17:00 (gyda chinio am ddim yn y fargen!)

Lluniau: Ochr 1 / Antena wedi eu defnyddio dan drwydded agored CC Wicipedia .