Fideo ‘Obsidian’ gan R. Seiliog

Mae Ochr 1 wedi cyhoeddi fideo newydd yr artist electroneg R. Seiliog ar eu llwyfannau digidol amrywiol.

Bydd R. Seiliog yn rhyddhau ei albwm diweddaraf, Megadoze ar label Turnstile ddydd Gwener yma, 30 Tachwedd.

Bydd y trac ‘Obsidian’ yn ymddangos ar y casgliad newydd, ac mae’r fideo gan Ochr 1 yn damaid i aros pryd nes bydd yr albwm ar gael yn swyddogol.

Seiliog ydy prosiect y cerddor a chynhyrchydd electroneg Robin Edwards sy’n dod o Beniel ger Dinbych, a Megadoze fydd ei drydydd albwm llawn. Mae’n dilyn Doppler a rhyddhawyd yn 2013 ac In Hz a gafodd ganmoliaeth eang yn 2016.

Mae’r albwm diweddaraf yn dilyn trywydd ychydig yn wahanol o ran ei sŵn yn ôl yr wybodaeth sydd wedi’i ryddhau.

Mae’r fideo newydd wedi’i gyfarwyddo gan Andy Pritchard, ac mae modd gwylio ar Sianel YouTube Ochr 1…neu cliciwch i chwarae isod!