Y rapiwr a bitbocsiwr ardderchog o Amlwch, Mr Phormula, ydy’r cerddor diweddaraf i dderbyn ‘Gwobr Gerddorol Llwybr Llaethog’.
Ers rhyw bedair blynedd bellach mae John a Kevs, aelodau’r grŵp amgen, Llwybr Llaethog, wedi bod yn dyfarnu eu ‘Gwobr Gerddorol’ i rywun am eu cyfraniad arbennig i gerddoriaeth Gymreig. Mae’r enillydd yn derbyn gwobr wedi ei chreu gan John a Kevs eu hunain, a nos Iau (1 Mawrth) fe gyhoeddwyd ar gyfrif Twitter Llwybr Llaethog mai Mr Phormula oedd yr enillydd eleni.
Mae enillwyr blaenorol yn cynnwys Meic Sbroggs (2017), Dau Cefn (2016), Y Pencadlys (2015) a Rhys Jakokoyak (2014).
Yn dilyn rhyddhau ei albwm arloesol, Llais, llynedd a cynnal fflam hip hop Cymraeg ers blynyddoedd, mae’n anodd dadlau gyda’r dewis.