Pump i’r Penwythnos 23/03/18

Gig: Mellt, Cpt. Smith ag Adwaith – Y Parrot, Caerfyrddin

Mae llwyth o gigs yn digwydd ym mhob cwr o’r wlad penwythnos yma, gan gynnwys noson i bobl ifanc dan 18 oed yn Nhŷ Siamas, Dolgellau heno gyda Fleur De Lys, drysau am 19:00.

Mae’n benwythnos prysur arall i Mellt, gan eu bod yn chwarae yn yr EVI, Glyn Ebwy heno am 19:30, ac yn y Parrot, Caerfyrddin nos fory gyda Cpt. Smith ac Adwaith.

Hefyd heno bydd Band Pres Llareggub yn chwarae yn Neuadd Ogwen gyda Gwilym a Sundance Kid am 19:00.

Yng Nghlwb Cymdeithasol Llanberis bydd ail noson ‘Gigs y Gilfach Ddu’ sy’n cyflwyno Y Cledrau, I Fight Lions, Dienw a DJ’s Sôn Am Sîn am 19:00.

Bydd y Blodau Gwylltion, sydd hefyd newydd ryddhau eu halbwm cyntaf ‘Llifo Fel Oed’,  yn chwarae yng Nghaffi Alys, Machynlleth heno am 19:30. Bydd Dewi Pws ac Ar Log hefyd yn Neuadd Dinas Mawddwy am 20:00, a bydd Elidyr Glyn o Bwncath yn ymuno â cherddorion o Wlad yr Iâ yn Neuadd Llangywer, ger y Bala heno.

Mae ‘Côr Dre’ yn dathlu deg mlwyddiant yn y Galeri, Caernarfon gydag Ar Log a Dewi Pws nos fory, 24 Mawrth am 19:30, ond os am rywbeth hollol wahanol ym mhen arall y wlad, bydd Los Blancos, Wylderness a The Vega Boys yng Nglwb Ifor Bach, Caerdydd am 19:00.

Ddydd Sul, 25 Mawrth, mae Eadyth, Kizzy Crawford a Magi yn chwarae yn y Tabernacl ar Stryd Mostyn, Llandudno am 19:30, a fel rhan o daith ‘Le Kov’, bydd Gwenno’n chwarae yn Amgueddfa Ceredigion yn Aberystwyth, gyda Patblygu yno i wneud set byw hefyd am 14:00.

Peidiwch anghofio chwaith am gig HMS Morris ac eraill yn Tramshed, Caerdydd Nos Iau nesaf, 29 Mawrth.

 

Cân: ‘Eus Keus?’ – Gwenno

Plygu rheol wythnos yma trwy ddewis cân sydd ddim yn y Gymraeg…ond mae’r Gernyweg yn perthyn yn ddigon agos i’r Gymraeg, ac yn ddigon prin, i gyfiawnhau hynny!

Dyma’r ail sengl i Gwenno ryddhau o’i halbwm newydd Le Kov . Fe gyhoeddwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl ddydd Mercher 21 Mawrth, ac fe ffilmiwyd y fideo rhyfeddol yng Nghernyw, ac yn benodol ym Mhort Eliot. Cân am gaws yw ‘Eus Keus?’ sy’n cyfieithu i ‘Oes Caws?’ –  sy’n gyfeiriad at hen draddodiad gan bobl Cernyw o gynnig caws fel rhodd i’w duwiau.

Dyma’r fideo newydd isod, a gallwch brynu’r albwm Gernyweg anhygoel nawr.

 

Artist: Anelog

Band sydd wedi cadw’n dawel ers blwyddyn neu ddwy erbyn hyn yw Anelog, ond braf yw chlywed bod sengl newydd sbon danlli allan ganddynt heddiw, sef y sengl ddiweddaraf yn y gyfres bresennol o Senglau Sain.

‘Papur Arian’ yw’r trac newydd gan y band o Ddinbych. Fe’i cyfansoddwyd gan Danny Cattell a Lois Rogers, ac yn ôl Danny roedd y broses o gyfansoddi’r gân yn debyg iawn i’r hyn oedd yn digwydd yn y dyddiau cynnar ganddynt – “…sef Lois a fi’n dod at ein gilydd i weithio ar syniadau”.

Recordiwyd ‘Papur Arian’ yn Stiwdio Whitchurch, Dinbych gyda Danny’n cynhyrchu a pheiriannu.

Fe groeswn ein bysedd y cawn glywed llawer mwy gan Anelog o ganlyniad i’r cynnyrch newydd, ond am y tro mwynhewch y fideo ar gyfer ‘Papur Arian’ gan Ochr 1.

https://www.youtube.com/watch?v=CpC3myCwuTA

  

Record: Serol Serol – Serol Serol

O’r diwedd – mae’r clustiau’r bydysawd yn cael clywed campwaith diweddara’ Serol Serol, sef eu halbwm gyntaf sy’n dwyn yr un enw ar band.

Mae’r albwm allan yn swyddogol heddiw ar Recordiau I KA CHING, albwm mae sawl un wedi bod yn disgwyl yn eiddgar amdano ers clywed y senglau diweddara ganddynt sef ‘K’TA’ ac ‘Arwres’ (rhyddhawyd fideo Arwres gan Ochr 1 ar HANSH hefyd).

Mae’r ddwy gyfnither o Ddyffryn Conwy sy’n gyfrifol am  Serol Serol, Leusa Rhys a Mali Siôn, wedi bod yn trafod y cyfnod cyffrous yma i’r grŵp…

“Deni’n eithaf newydd i’r sin ac ond wedi chware llond llaw o gigs, ond mae’r senglau wedi rhoi blas go dda i bawb o’r albwm.

“De ni wedi bod yn recordio’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, ac mae hi wedi bod yn broses rhyfedd, gan fod pawb ar wahân. Ond rhywsut, mae’r darnau wedi disgyn i’w lle.

“Mi fase’n ni’n disgrifio’r sŵn fel spacey neu groovy; eithaf gwahanol i beth sy’ yn y sin Gymraeg ar y funud. ‘De ni wedi dewis genre eithaf sbesiffig, ac yn ôl Huw Stephens, ‘de ni chydig bach fel y Beyonce Cymraeg!”

Mae cyfle i’w dal yn perfformio wythnos nesa yng Nglwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst ar 31 Mawrth.

Dyma’r sengl ddiweddaraf ‘K’TA’:

 

Un peth arall..: Cyhoeddi Lein-yp Tafwyl

Cyhoeddwyd lein-yp gŵyl Gymraeg fawr y brifddinas, Tafwyl, gan y trefnwyr ddoe. Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i’w chartref gwreiddiol, Castell Caerdydd eleni ar 30 Mehefin – 1 Gorffennaf.

Dyma arlwy fydd ar y Prif Lwyfan eleni – Band Pres Llareggub, Bryn Fon, Eden, Candelas, Chroma, Adwaith, Alun Gaffey, Fleur De Lys, Cowbois Rhos Botwnnog, Meic Stevens, Jamie Smith’s Mabon, No Good Boyo, Y Cledrau, Omaloma, Vri, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Lleden, Cadno, Ian Cottrell, DJ Dilys, Garmon, Elan Evans.

Y Sgubor ydy llwyfan arall yn yr  ŵyl  lle bydd Alys Williams, Gareth Bonello, Gai Toms, Lleuwen, Glain Rhys, Aled Rheon, Welsh Whisperer, Mabli Tudur a’r Band, Danielle Lewis, Tecwyn Ifan, Patrobas, Palenco, DJ Gareth Potter.

Ac yna yn Yurt T bydd Beth Celyn, Hyll, Eady Crawford, Y Sybs, Wigwam, Los Blancos, Serol Serol a Ffracas. Gwledd o gerddoriaeth wedi’i drefnu ar eich cyfer!