Rhyddhau albwm cyntaf Serol Serol

Mae’r grŵp pop-gofodol o Ddyffryn Conwy, Serol Serol, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf ar label Recordiau I KA CHING heddiw, 23 Mawrth.

Yn nhraddodiad diweddar y rhan fwyaf o grwpiau Cymraeg mae’n ymddangos, mae record gyntaf y prosiect yn rhannu enw’r grŵp ac yn cynnwys deg o draciau.

Ymysg y traciau mae’r bedair sengl sydd wedi’i rhyddhau gan Serol Serol ers mis Mehefin diwethaf – ‘Cadwyni’, ‘Aelwyd’, ‘K’TA’ ac ‘Arwres’.

Rhyddhawyd y ddwy sengl ddiweddara, sef ‘K’TA’ ac ‘Arwres’, ganddynt ers dechrau’r flwyddyn gydag addewid o albwm yn fuan – rhyddhawyd fideo Arwres gan Ochr 1 ar HANSH hefyd rhyw bythefnos yn ôl.

“Darnau wedi disgyn i’w lle”

Mae’r ddwy gyfnither o Ddyffryn Conwy sy’n gyfrifol am  Serol Serol, Leusa Rhys a Mali Siôn, wedi bod yn trafod y cyfnod cyffrous yma i’r grŵp…

“Deni’n eithaf newydd i’r sin ac ond wedi chware llond llaw o gigs, ond mae’r senglau wedi rhoi blas go dda i bawb o’r albwm.

“De ni wedi bod yn recordio’r albwm yn Stiwdio Glan Llyn, ac mae hi wedi bod yn broses rhyfedd, gan fod pawb ar wahân. Ond rhywsut, mae’r darnau wedi disgyn i’w lle.

“Mi fase’n ni’n disgrifio’r sŵn fel spacey neu groovy; eithaf gwahanol i beth sy’ yn y sin Gymraeg ar y funud. ‘De ni wedi dewis genre eithaf sbesiffig, ac yn ôl Huw Stephens, ‘de ni chydig bach fel y Beyonce Cymraeg!”

Mae cyfle i’w dal yn perfformio wythnos nesa yng Nglwb Rygbi Nant Conwy, ger Llanrwst ar 31 Mawrth.

Gadael Ymateb