Pump i’r Penwythnos – 28 Medi 2018

Gig: Nôl yn y Mart: Ail Symudiad – Mart Aberteifi – Gwener, 28/09/28

Wedi cyfnod hynod o brysur o ran gigs, mae’r penwythnos yma ychydig yn fwy hamddenol.

Mae sesiwn ‘Gwerin yn Gorad’ gyda Meinir Gwilym yn Pontio, Bangor lle mae cyfle i fwynhau pryd o fwyd yn ogystal â set gan y gantores o Fôn.

Nos Wener hefyd mae cyfle i ddal un o fandiau prysura’ 2018, Mellt, wrth iddyn nhw berfformio yn Rat Trap, Caerdydd.

Ein prif ddewis ni y penwythnos yma ydy gig ‘Nol yn y Mart’ ym Mart Aberteifi fel rhan o Ŵyl y Cynhaeaf. Ail Symudiad ydy’r prif atyniad cerddorol, gyda’r bardd lleol, Ceri Wyn Jones, yn cyfrannu ychydig o farddoniaeth i’r noson.

 

Cân: ‘Paid Dal Fi Nôl’ – Lastigband

Roedd 2017 yn flwyddyn fywiog i Lastigband, wrth iddyn nhw ryddhau eu EP cyntaf, Torpido, ym mis Ebrill llynedd.

Mae’r grŵp yn cyfuno talentau cerddorol Dyffryn Conwy a Dyffryn Ogwen i greu synau pop arbrofol a lledrithiol, a theg dweud ein bod ni’n awyddus i glywed mwy ganddyn nhw.

Newyddion da yr wythnos hon felly wrth iddyn nhw lwytho fersiwn demo o drac newydd, ‘Paid Dal Fi Nôl’ ar eu safle Soundcloud.

Ac os oeddech chi’n ffan o sŵn seicadelig un o fandiau niferus gwaddol Sen Segur, yna byddwch chi’n hoffi hon gan fod adlais clir o diwn amlycaf yr EP, ‘Jelo’, er y gellir dadlau bod hon efallai ychydig yn fwy arbrofol a lo-fi.

Da iawn hogia, dalier ati.

 

 

Record: Bukowski – Rheinallt H. Rowlands

Enw anghyfarwydd i rai o’r darllenwyr iau o bosib, ond bydd y rhan fwyaf ohonoch wedi clywed cân neu ddwy o’r albwm Bukowski gan Rheinallt H Rowlands.

Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ar label Ankst ym 1996, wedi ei chynhyrchu gan yr anfarwol Gorwel Owen. Fe gyhoeddodd Pyst yn gynharach yn yr wythnos bod holl gynnyrch ôl-gatalog Rheinallt H. Rowlands bellach yn cael ei ddosbarthu ganddyn nhw

Pwy oedd Rheinallt H Rowlands? Yr aelodau craidd oedd Owain ‘Oz’ Wright, Dewi Evans ac fe’i ffurfiwyd yn wreiddiol fel rhyw fath o fand spoof yn cylchdroi o gwmpas y cymeriad yma o Rheinallt H. Rowlands. Y syniad oedd creu’r grŵp i gyfrannu trac at albwm Hen Wlad y Lladd-dai oedd yn cynnwys fersiynau o ganeuon o albwm Hen Wlad Fy Nhadau, Geraint Jarman, gan fandiau gwneud. Rheinallt H. Rowlands oedd yn gyfrifol am y glasur, ‘Ethiopia Newydd’. Mae hanes yr albwm yn cael ei grynhoi’n dda yn yr iaith fain ar flog Turquoise Coal.

Ond, er bod yna elfen dafod ym moch amlwg i’r grŵp, fe ddaethon nhw’n fand digon poblogaidd ac amlwg mewn cyfnod digon cyffrous i gerddoriaeth Gymraeg. Mae’n debyg y gellid dwyn cymariaethau rhwng steil ac arddull Rheinallt H. Rowlands a The Divine Comedy, oedd yn enw mawr yng nghanol y 1990au. Eu trac enwocaf mae’n siŵr ydy ‘Merch o Gaerdydd’ ond mae ‘Nos Da Cariad’ a ‘Diwrnod Braf’ a’i adlais Ennino Morricone-aidd, sydd hefyd ar yr albwm Bukowski yn ardderchog.

Yn wir, cafodd Bukowski ei enwi’n un o albyms y flwyddyn 1996 gan bapur newydd The Independent, a roddodd dipyn o sylw i’r record hir.

Diweddglo hynod o drist Rheinallt H. Rowlands oedd i’r canwr, Oz, gael ei ladd mewn damwain ffordd drasig. Ond mae ei gerddoriaeth a llais unigryw yn byw ymlaen.

Un arall o ganeuon gorau’r albwm ydy’r teitl drac ardderchog…dyma ‘Bukowski’:

 

 

Artist: Carw

Mae sengl newydd Carw, ‘Feathers’, allan heddiw felly cyfle perffaith i roi bach o sylw i’r artist electroneg.

Carw ydy prosiect Owain Griffiths, fydd yn gyfarwydd i sawl un fel aelod o’r band Violas. Mae’n dod yn wreiddiol o Ganolbarth Cymru…yn wir o Bowys nid llai, ond bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd.

‘Feathers’ ydy’r drydedd sengl weld golau dydd ganddo eleni wrth iddo baratoi i ryddhau ei albwm cyntaf, Skin Shed, sydd allan ar 12 Hydref.

Mae’r albwm wedi’i gyd-gynhyrchu gan Llion Robertson, fu’n gyfrifol am gynhyrchu albwm diweddaraf Gruff Rhys, Babelsberg. Bydd yr albwm allan ar label Recordiau BLINC, sydd wedi bod yn gyfrifol am ryddhau albyms HMS Morris a Rogue Jones yn y gorffennol. Y newyddion da pellach ydy bod fersiwn feinyl o’r albwm, yn ogystal â CD a digidol.

Dyma ‘Feathers’:

 

 

Un peth arall…: Jobs Pyst

Gwaetha’r modd, ychydig iawn o gyfleoedd sydd yna i gael job lawn amser yn gweithio yn y diwydiant cerddoriaeth Cymraeg. Llafur cariad ydy hyrwyddo cerddoriaeth gyfoes i’r rhan fwyaf, gyda chyfle i ennill ceiniog neu ddwy fan hyn a fan draw os ydach chi’n ffodus…ond y potensial i golli llawer mwy!

Datblygiad cyffrous felly ydy’r newyddion bod asiantaeth hyrwyddo a phlygio PYST yn hysbysebu dwy swydd sy’n ymwneud yn benodol a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar hyn o bryd.

‘Asiant Cyngherddau ac Artistiaid’ ydy teitl y swydd gyntaf, ac mae’r swydd yn ymwneud yn bennaf â gweithio gydag artistiaid y labeli sy’n dosbarthu trwy Pyst gan gynnig cymorth iddynt gydag ymholiadau gigs ac ati.

Teitl yr ail swydd ydy ‘Rheolwr Cynnyrch a Hyrwyddo’ lle bydd yr ymgeisydd lwcus yn gyfrifol am weithredu rhaglen y recordiau a ddosberthir gan Pyst.

Os oes ganddoch chi ddiddordeb, cysylltwch â Pyst am fanylion pellach – post@pyst.cymru. Cyfleoedd gwych i ddau berson lwcus.