The Joy Formidable yn cyhoeddi manylion taith o’r DU

Mae’r grŵp Cymreig, sy’n dod yn wreiddiol o Ogledd Ddwyrain Cymru, The Joy Formidable, wedi cyhoeddi manylion eu taith Brydeinig ym mis Chwefror.

Rhyddhaodd y grŵp eu pedwerydd albwm, AAARTH ym mis Medi eleni, ac mae wedi cael ymateb arbennig o dda.

Er bod y caneuon yn bennaf yn rai Saesneg, mae’r casgliad diweddaraf yn agor gyda’r trac Cymraeg ‘Y Bluen Eira.’

Dechreuodd y triawd, sef Ritzy Bryan, Rhydian Dafydd a Matt Thomas, hyrwyddo’r record hir ddiweddaraf dros yr haf. Bu iddynt berfformio ar brif lwyfan gŵyl enwog Reading & Leeds, llenwi sioe yn The Lexington yn Llundain, a theithio fel cefnogaeth i’r grŵp enfawr Foo Fighters yn yr Unol Daleithiau a Chanada.

Mae’r tair sengl sydd wedi eu rhyddhau ‘Dance of The Lotus’, ‘The Wrong Side’ a ‘The Better Me’ wedi bod yn boblogaidd iawn ar donfeddi gorsafoedd BBC Radio 1 a BBC 6 Music hefyd.

Bydd y daith yn y flwyddyn newydd yn siŵr o blesio eu cefnogwyr helaeth felly, wrth iddyn nhw gyhoeddi manylion 11 o ddyddiadau ym mis Chwefror 2019.

Dim ond un o’r dyddiadau hynny sydd yng Nghymru yn anffodus, sef eu gig yn Sin City, Abertawe ar 20 Chwefror.

Dyddiadau llawn taith The Joy Formidable:

10 Chwefror –  Arts Centre, Norwich
11 Chwefror  – The Key Club, Leeds
12 Chwefror  – King Tut’s Wah Wah Hut, Glasgow
14 Chwefror  – Think Tank, Newcastle
15 Chwefror  – Gorilla, Manceinion
16 Chwefror  – Rescue Rooms, Nottingham
18 Chwefror  – Wedgewood Rooms, Portsmouth
19 Chwefror  – The Fleece, Bryste
20 Chwefror  – Sin City, Abertawe
21 Chwefror  – O2 Institute3, Birmingham*
22 Chwefror  – The Garage, Llundain

Dyma nhw’n perfformio fersiwn acwstig o ‘Y Bluen Eira’ yn Rough Trade East ddechrau mis Hydref eleni: