Mae’r cyfle bellach yn agored i fandiau newydd gystadlu ym Mrwydr y Bandiau blynyddol Maes B a BBC Radio Cymru.
Cynhelir y rownd derfynol ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac fel rheol mae rowndiau rhagbrofol i ennill lle yn y ffeinal yn ystod y Gwanwyn.
Mae’r dyddiad cau ar 14 Chwefror, ac ymysg y gwobrau eleni mae £1000, sesiwn recordio gyda Radio Cymru a chyfle i berfformio ar lwyfan Maes B blwyddyn nesaf.
Os oes ganddoch chi ddiddordeb mewn cystadlu yna ebostioch Sioned yn yr Eisteddfod – sioned@eisteddfod.org.uk
Llun: enillydd Brwydr y Bandiau 2019 – Mari Mathias