Atgyfodi REU yn gig Tafwyl

Bydd ysbryd sin gerddoriaeth danddaearol yr 80au hwyr a 90au cynnar yn cael ei atgyfodi fel rhan o ddathliadau Tafwyl eleni.

Nos Wener 21 Mehefin fydd y dyddiad, a Chlwb Ifor Bach fydd y lleoliad ar gyfer Gig Twrw Tafwyl a Gareth Potter a Mark Lugg fydd yn arwain y parti i ddathlu Caneuon Gadael yr Ugeinfed Ganrif.

Roedd band Potter a Lugg, Traddodiad Ofnus, yn ganolog i’r mudiad cerddoriaeth tanddaearol Cymraeg gwreiddiol, gyda traciau’r grŵp yn cael eu cynnwys ar y casgliad eiconig Gadael yr Ugeinfed Ganrif a ryddhawyd gan Recordiau Anhrefn ym 1985. Wedi hynny, aeth y band ymlaen i ryddhau’r record hir ‘Welsh Tourist Bored’ gyda’r label indî o’r Almaen, Constrictor, ac yna EP i label Ankst ar ddiwedd yr wythdegau.

Wedi hynny, aeth Gareth Potter ymlaen i recordio’r record Pop Negatif Wastad, a Gig Tafwyl fydd y cyfle cyntaf i glywed traciau’r EP honno’n fyw. Daeth y ddeuawd yn ôl at ei gilydd ar ôl hynny i ffurfio Tŷ Gwydr.

Yn ôl trefnwyr Tafwyl, bydd sioe fyw REUVival yn gyfle i brofi’r caneuon yma i gyd mewn un set godidog, ac yn gyfle i fynd ar daith ôl-bync a ffynci yr 80au trwy gybolfa o gerddoriaeth pop electroneg, hip-hop, rave, techno a house.

Mae tocynnau ar werth nawr am £10 ar wefan Clwb Ifor Bach.

Dyma fideo bach o ‘Nid Hawdd’ gan Traddodiad Ofnus sydd wedi’i lwytho i sianel YouTube bendigedig Ffarout:

Prif Lun: Mark Lugg, Traddodiad Ofnus. Clwb Ifor Bach, Caerdydd – circa 1989. Image by Medwyn Jones